Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
nodyn |
|||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
*Richard Avent, ''Cestyll Tywysogion Gwynedd'' (Caerdydd, 1983) |
*Richard Avent, ''Cestyll Tywysogion Gwynedd'' (Caerdydd, 1983) |
||
*Paul R. Davis, ''Castles of the Welsh Princes'' (Abertawe, 1988) |
*Paul R. Davis, ''Castles of the Welsh Princes'' (Abertawe, 1988) |
||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Gŵr Blewog]], un o [[llên gwerin Cymru|chwedlau gwerin]] yr ardal. |
|||
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}} |
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}} |
||
{{Bryngaerau Cymru}} |
{{Bryngaerau Cymru}} |
||
[[Categori:Cestyll Tywysogion Gwynedd]] |
[[Categori:Cestyll Tywysogion Gwynedd]] |
||
[[Categori:Cestyll Cymru]] |
[[Categori:Cestyll Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 19:10, 3 Hydref 2007
Y mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
Lleoliad
Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.
Y tŵr
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgawr i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13eg ganrif neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12fed ganrif. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
Y dreigiau
Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
Llyfryddiaeth
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Gweler hefyd
- Gŵr Blewog, un o chwedlau gwerin yr ardal.