Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cerddoriaeth"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 1 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
BNo edit summary
Mae'n rhaid bod datblygiad cerddoriaeth ymhlith bodau dynol cynnar wedi digwydd wrth iddynt sylwi ar synnau naturiol fel y synnau y mae adar ac anifeiliaid eraill yn gwneud wrth gyfathrebu. Cerddoriaeth gyn-hanesyddol yw'r enw a roddir ar gerddoriaeth a gynhyrchwyd gan ddiwylliannau cyn-ysgrifen. Gall ysgolheigion ddychmygu cerddoriaeth gyn-hanesyddol wrth astudio olion a ddargynfuwyd ar safleoedd [[paleolithig]], fel esgyrn gyda thyllau a ddefnyddiwyd fel ffliwt o ryw fath.<ref>Son et musique au paléolithique", Pour La Science,. 253, 52-58 (1998)</ref>
 
Fe welir y cofnodion cynharach o fynegiant cerddorol yn y [[Samaveda]] yn [[India]] ac mewn [[sgript cuneiformgynffurf]] yn [[Ur]] sy'n dyddio o 2,000 C.C. Hefyd fe ddarganfyddwyd [[offerynnau llinynnol]] o'r [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]].<ref>[http://books.google.com/books?vid=ISBN8170173329&id=yySNDP9XVggC&pg=PA11&lpg=PA11&dq=seven+holed+flute+and+various+types+of+stringed+instruments&sig=0baqFLb6KItfPYLoCdFWFTCD8Sk ''The Music of India''] Gan Reginald MASSEY, Jamila MASSEY. Google Books</ref>
 
Mae gan India un o'r traddodiadau cerddorol hynaf yn y byd; fe welir cyfeiriadau at gerddoriaeth glasurol Indiaidd (''marga'') yn llenyddiaeth hynafol y traddodiad [[Hindwaeth|Hindwaidd]], y [[Veda]]. Mae gan draddodiad cerddorol [[Tseina]] hanes o dair mil o flynyddoedd ac roedd cerddoriaeth yn agwedd pwysig o fywyd diwylliannol yng [[Groeg hynafol|Ngroeg hynafol]]
71,646

golygiad

Llywio