Speculum duorum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Jac y jwc (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Gerallt_Gymro_00dg.JPG|180px|bawd|Geralt Gymro]]
[[Delwedd:Gerallt_Gymro_00dg.JPG|180px|bawd|Geralt Gymro]]
Mae'r '''''Speculum duorum''''' ([[Lladin]]: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith [[Lladin|Ladin]] a ysgrifennwyd gan [[Gerallt Gymro]] ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn [[1216]].
Llythyr hir athronyddol yw'r '''''Speculum duorum''''' ([[Lladin]]: "Drych deuddyn"), a ysgrifennwyd yn [[Lladin]] gan [[Gerallt Gymro]] ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn [[1216]].


Mae'r ''Speculum'' yn waith sydd ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y llyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a ''lacunae'' sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd y cyfle i wneud hynny.
Mae'r ''Speculum'' ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y llyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a ''lacunae'' sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd gyfle i wneud hynny.


Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai [[Hubert Walter]] ydyw'r ''Speculum duorum''. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth [[Aberhonddu]] yn [[1203]], diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.
Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai [[Hubert Walter]] yw'r ''Speculum duorum''. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth [[Aberhonddu]] ym [[1203]], diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.


Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes [[esgobaeth Tyddewi]] yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r [[Beibl|Ysgrythurau]], [[Tadau'r Eglwys]] a sawl awdur arall, o'r [[Oesoedd Canol]] a'r [[Henfyd]]. Ond yn fwy diddorol o safbwynt efrydwyr [[hanes Cymru]] yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â [[Yr Oesoedd Canol yng Nghymru|Chymru oes Gerallt]], e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r [[tartan]].
Dechreua Gerallt drwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes [[esgobaeth Tyddewi]] yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r [[Beibl|Ysgrythurau]], [[Tadau'r Eglwys]] a sawl awdur arall, o'r [[Oesoedd Canol]] a'r [[Henfyd]]. Ond manylion mwy diddorol o safbwynt efrydwyr [[hanes Cymru]] yw'r cyfeiriadau a'r disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â [[Yr Oesoedd Canol yng Nghymru|Chymru oes Gerallt]], e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r [[tartan]].


Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.
Yn fwy felly nag yn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn gipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 15:27, 30 Medi 2007

Geralt Gymro

Llythyr hir athronyddol yw'r Speculum duorum (Lladin: "Drych deuddyn"), a ysgrifennwyd yn Lladin gan Gerallt Gymro ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn 1216.

Mae'r Speculum ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y llyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a lacunae sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd gyfle i wneud hynny.

Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai Hubert Walter yw'r Speculum duorum. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth Aberhonddu ym 1203, diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.

Dechreua Gerallt drwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes esgobaeth Tyddewi yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a sawl awdur arall, o'r Oesoedd Canol a'r Henfyd. Ond manylion mwy diddorol o safbwynt efrydwyr hanes Cymru yw'r cyfeiriadau a'r disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â Chymru oes Gerallt, e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r tartan.

Yn fwy felly nag yn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn gipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.

Llyfryddiaeth

  • Giraldus Cambrensis: Yves Lefèvre a R. B. C. Huygens (gol.), Speculum duorum or a Mirror of two men, cyfieithiwyd gan Brian Dawson (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1974). Y testun Lladin gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog.