Pyreneau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: hr:Pirineji Modifying: ku:Pîrenê |
B robot Adding: fy:Pyreneeën |
||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[fi:Pyreneet]] |
[[fi:Pyreneet]] |
||
[[fr:Pyrénées]] |
[[fr:Pyrénées]] |
||
[[fy:Pyreneeën]] |
|||
[[gl:Pireneos]] |
[[gl:Pireneos]] |
||
[[he:הרי הפירינאים]] |
[[he:הרי הפירינאים]] |
Fersiwn yn ôl 09:31, 30 Medi 2007
Mae'r Pyreneau (Sbaeneg: Pirineos; Ffrangeg: Pyrénées; Catalaneg: Pirineus; Basgeg: Pirinioak) yn fynyddoedd yn ne-orllewin Ewrop sy'n gwahanu Ffrainc a Sbaen. Maent yn ymestyn am tua 430 km (267 milltir) o Fae Biscay i Fôr y Canoldir.
Enwyd y Pyreneau ar ôl Pyrene (tân mewn Groeg), cymeriad mewn mytholeg Groeg, merch Bebryx, a reibiwyd gan Herakles. Ffôdd i'r mynyddoedd lle cafodd ei chladdu neu ei bwyta gan anifeiliaid gwyllt.
Mae'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn dilyn llinell copaon uchaf y Pyreneau am y rhan fwyaf o'i hyd; mae gwlad fechan Andorra ynghanol y Pyrenaeau. Y mynyddoedd uchaf yw Pico d'Aneto neu Pic de Néthou 3,404 m. (11,168 troedfedd), Mont Posets 3,375 m. a Mont Perdu neu Monte Perdido 3,355 m..
Mae'r Pyreneau yn nodedig am anmrywiaeth o anifeiliad, adar a phlanhigion, gan gynnwys rhai mathau sy'n unigryw i'r mynyddoedd yma. Yn y gaeaf mae sgïo yn boblogaidd yma, tra yn yr haf mae'r Pyreneau yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr a mynyddwyr. Mae tri llwybr cerdded pellter hir yn arwain ar draws y Pyreneau, GR 10 yn Ffrainc ar hyd y llethrau gogleddol, GR11 yn Sbaen ar draws y llethrau deheuol a'r Haute Randonnée Pyrénéenne (HRP) sy'n arwain ar hyd y copaon.