Traeth Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B cat
Llinell 10: Llinell 10:
{{eginyn Cymru}}
{{eginyn Cymru}}


[[Categori:Baeau Cymru]]
[[Categori:Traethau Cymru]]
[[Categori:Traethau Cymru]]
[[Categori:Ynys Môn]]
[[Categori:Ynys Môn]]

Fersiwn yn ôl 22:29, 27 Medi 2007

Mae'r Traeth Coch yn draeth tywodlyd llydan ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn. Mae'n gorwedd rhwng Trwyn Dwlban ger pentref Benllech i'r gorllewin a Llaniestyn i'r dwyrain. Mae'n cael ei adnabod fel Red Wharf Bay yn Saesneg.

Rhed afon Nodwydd i'r traeth, sy'n ffurfio bae agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref Pentraeth ; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.

Bu'r Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â Gwrachod Llanddona ; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.

Ar un adeg roedd rheilffordd ar hyd ymyl orllewinol y traeth yn cysylltu Benllech a Pentre Berw, ar brif reilffordd y Gogledd dros yr ynys.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.