Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn. Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'...
 
Llinell 20: Llinell 20:
*[[Llanfihangel]]
*[[Llanfihangel]]
*[[Llangoed]]
*[[Llangoed]]
*[[Llaniestyn]]
*[[Llaniestyn (Môn)|Llaniestyn]]
*[[Llanredifel]]
*[[Llanredifel]]
*[[Llansadwrn]]
*[[Llansadwrn]]

Fersiwn yn ôl 21:23, 27 Medi 2007

Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn.

Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt de-ddwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.

Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12fed ganrif, sef Priordy Penmon.

Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.

Plwyfi

Cyfeiriadau

  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)