Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
yr enw
BDim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Mae'r gwaharddiad ar haearn (a [[halen]] hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith fod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan [[cromlech|siambrau claddu]] a [[gorsedd]]au (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu fod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd [[Oes y Cerrig]].
Mae'r gwaharddiad ar haearn (a [[halen]] hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith fod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan [[cromlech|siambrau claddu]] a [[gorsedd]]au (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu fod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd [[Oes y Cerrig]].


'''Bendith y Mamau''' oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn ne Cymru, ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw a'r [[duwies]]au Celtaidd triphlyg ac yn enwedig a'r duwiesau ym Mhrydain a [[Gâl]] a elwid yn ''[[Matres|Matres]]'' gan y [[Rhufeiniaid]]. Cedwir cof am y bodau hyn yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, mae hyn yn enghraifft hefyd o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio cyfeirio at fodau [[arallfyd]]ol yn uniongyrchol.
'''Bendith y Mamau''' oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn ne Cymru, ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw a'r [[duwies]]au Celtaidd triphlyg ac yn enwedig a'r duwiesau ym Mhrydain a [[Gâl]] a elwid yn ''[[Matres|Matres]]'' gan y [[Rhufeiniaid]]. Cedwir cof am y bodau hyn yn ogystal yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, mae hyn yn enghraifft yn ogystal o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio cyfeirio at fodau [[arallfyd]]ol yn uniongyrchol.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 18:43, 18 Medi 2007

Delwedd:M.L.Williams Lady-of-the-Van-Lake.JPG
Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Llun gan M.L.Williams.

Defnyddir yr enw Tylwyth Teg, weithiau Bendith y Mamau yn ne Cymru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth a llên gwerin llawer gwlad, er enghraifft banshee yn Iwerddon, brownies yn yr Alban, fairies ac elves yn Lloegr, fee yn Ffrainc.

Efallai fod gan y chwedlau am y Tylwyth Teg gysylltiad a hen dduwiau a duwiesau y Celtiaid. Yn ôl un fersiwn, Gwyn ap Nudd oedd eu brenin. Cysylltir hwy yn aml a llynnoedd; ar y llaw arall dywedid fod criafolen yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi haearn. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru ; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr John Rhys, Owen Wynne Jones (Glasynys) ac eraill. Ceir nifer o themau yn y chwedlau hyn; un yw fod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu bananod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld a gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio a bod neb yn ei adnabod bellach.

Chwedl a gysylltir a nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi merch o'r Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai fyth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â haearn. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Ceir fersiynau o'r chwedl yma yn gysylltiedig a nifer o lynnoedd, megis Llyn y Fan Fach yn Sir Gaerfyrddin a Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.

Mae'r gwaharddiad ar haearn (a halen hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith fod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan siambrau claddu a gorseddau (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu fod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd Oes y Cerrig.

Bendith y Mamau oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn ne Cymru, ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw a'r duwiesau Celtaidd triphlyg ac yn enwedig a'r duwiesau ym Mhrydain a Gâl a elwid yn Matres gan y Rhufeiniaid. Cedwir cof am y bodau hyn yn ogystal yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, mae hyn yn enghraifft yn ogystal o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio cyfeirio at fodau arallfydol yn uniongyrchol.

Llyfryddiaeth

  • Hugh Evans, Y Tylwyth Teg (Lerpwl, 1935; 4ydd argraffiad, 1950)
  • John Owen Huws Y Tylwyth Teg (Gwasg Carred Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X
  • Owen Wynne Jones: Straeon Glasynys, gol. Saunders Lewis (Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)