Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 11: Llinell 11:
*John Owen Huws ''Y Tylwyth Teg'' (Gwasg Carred Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X
*John Owen Huws ''Y Tylwyth Teg'' (Gwasg Carred Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X


[[Categori:Llên gwerin Cymru]]


[[bg:Фея]]
[[bg:Фея]]

Fersiwn yn ôl 17:29, 18 Medi 2007

Delwedd:Cottingley Fairies 1.jpg
Y syniad Fictoraidd am y Tylwyth Teg - y Cottingley Fairies cyfres o luniau gan Elsie Wright a Frances Griffiths.

Defnyddir yr enw Tylwyth Teg, weithiau Bendith y Mamau yn ne Cynru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth llawer gwlad, er enghraifft banshee yn Iwerddon, brownies yn yr Alban, fairies ac elves yn Lloegr, fee yn Ffrainc.

Efallai fod gan y chwedlau am y tylwyth teg gysylltiad a hen dduwiau a duwiesau y Celtiaid. Cysylltir hwy yn aml a llynnoedd; ar y llaw arall dywedid fod criafolen yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi haearn. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru' casglwyd llawer o'r rhain gan Syr John Rhys, Glasynys ac eraill. Ceir nifer o themau yn y chwedlau hyn; un yw fod y tylwyth teg yn cyfnewid babanod dynol am eu bananod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld a gwlad y tylwyth teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio.

Chwedl a gysylltir a nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi merch o'r tylwyth teg, ar yr amod na fyddai fyth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo a haearn. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Ceir fersiynau o'r xchwedl yma yn gysylltiedig a nifer o lynnoedd, megis Llyn y Fan Fach yn Sir Gaerfyrddin. Gallai'r tylwyth teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.


Llyfryddiaeth