Speculum duorum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai [[Hubert Walter]] ydyw'r ''Speculum duorum''. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth [[Aberhonddu]] yn [[1203]], diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt. |
Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai [[Hubert Walter]] ydyw'r ''Speculum duorum''. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth [[Aberhonddu]] yn [[1203]], diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt. |
||
Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes [[esgobaeth Tyddewi]] yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r [[Beibl|Ysgrythurau]], [[Tadau'r Eglwys]] a sawl awdur arall, o'r [[Oesoedd Canol]] a'r [[Henfyd]]. Ond yn fwy diddorol o safbwynt [[hanes Cymru]] yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â [[ |
Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes [[esgobaeth Tyddewi]] yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r [[Beibl|Ysgrythurau]], [[Tadau'r Eglwys]] a sawl awdur arall, o'r [[Oesoedd Canol]] a'r [[Henfyd]]. Ond yn fwy diddorol o safbwynt efrydwyr [[hanes Cymru]] yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â [[Yr Oesoedd Canol yng Nghymru|Chymru oes Gerallt]], e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r [[tartan]]. |
||
Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn. |
Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn. |
Fersiwn yn ôl 19:14, 15 Medi 2007
Mae'r Speculum duorum (Lladin: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith Ladin a ysgrifennwyd gan Gerallt Gymro ac a adawyd yn anorffenedig ganddo yn y flwyddyn 1216.
Mae'r Speculum yn waith sydd ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y llyfr yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a lacunae sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd y cyfle i wneud hynny.
Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai Hubert Walter ydyw'r Speculum duorum. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth Aberhonddu yn 1203, diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.
Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes esgobaeth Tyddewi yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a sawl awdur arall, o'r Oesoedd Canol a'r Henfyd. Ond yn fwy diddorol o safbwynt efrydwyr hanes Cymru yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â Chymru oes Gerallt, e.e. disgrifiadau manwl o wisg Cymry'r cyfnod sy'n dangos eu bod yn arfer gwisgo mentyll amryliw gyda phatrymau tebyg i'r tartan.
Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau eraill, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog gŵr balch ond dynol oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.
Llyfryddiaeth
- Giraldus Cambrensis: Yves Lefèvre a R. B. C. Huygens (gol.), Speculum duorum or a Mirror of two men, cyfieithiwyd gan Brian Dawson (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1974). Y testun Lladin gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog.