Porthmadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Tegel (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.39.172.67 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Tegel. |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox UK place| |
|||
|country = Cymru |
|||
|latitude = 52.926525 |
|||
|longitude = -4.132553 |
|||
|official_name = Porthmadog |
|||
|welsh_name = |
|||
|population = 4,187 |
|||
|static_image = [[File:Porthmadog - Harbour.JPG|250px]] |
|||
|static_image_caption = <small>Porthladd Porthmadog - a roddodd yr enw i'r dref; man allforio [[llechen|llechi]].</small> |
|||
|community_wales = Porthmadog |
|||
|unitary_wales = [[Gwynedd]] |
|||
|lieutenancy_wales = [[Gwynedd]] |
|||
|constituency_welsh_assembly = [[Dwyfor Meirionnydd (etholaeth Cynulliad)|Dwyfor Meirionnydd]] |
|||
|constituency_westminster = [[Dwyfor Meirionnydd (etholaeth seneddol)|Dwyfor Meirionnydd]] |
|||
|postcode_district = LL49 |
|||
|postcode_area = LL |
|||
|post_town = PORTHMADOG |
|||
|dial_code = 01766 |
|||
|os_grid_reference = SH565385 |
|||
|cardiff_distance = |
|||
}} |
|||
Tref yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Porthmadog''' neu '''Port'''<ref name="name">[https://archive.is/20130113232454/www.bbc.co.uk/wales/whatsinaname/sites/placenames/pages/porthmadog.shtml British Broadcasting Corporation : ''What's in a Name : Porthmadog'']</ref> ar lafar, sydd wedi'i leoli ar [[aber]] [[Afon Glaslyn]] yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]. Saif oddeutu 8 [[cilometr|km]] (5 milltir) o [[Cricieth|Gricieth]]. Mae Caerdydd 173.4 [[cilometr|km]] i ffwrdd o Borthmadog ac mae [[Llundain]] yn 316.6 km. Y ddinas agosaf ydy [[Bangor]] sy'n 33 km i ffwrdd. |
|||
Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn [[Sir Gaernarfon]]. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187. |
|||
== Hanes == |
|||
=== Hanes diweddar === |
=== Hanes diweddar === |
||
Datblygodd Porthmadog ar ôl i [[William Alexander Madocks|W. A. Madocks]], [[Aelod Seneddol]] dros [[Boston, Swydd Lincoln|Boston]], [[Swydd Lincoln]], yn [[Lloegr]], adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir [[amaeth]]yddol o'r [[Traeth Mawr]], a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym [[Blaenau Ffestiniog|Mlaenau Ffestiniog]], ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, [[Rheilffordd Ffestiniog]] i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]] collodd y porthladd ei bwysigrwydd. |
Datblygodd Porthmadog ar ôl i [[William Alexander Madocks|W. A. Madocks]], [[Aelod Seneddol]] dros [[Boston, Swydd Lincoln|Boston]], [[Swydd Lincoln]], yn [[Lloegr]], adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir [[amaeth]]yddol o'r [[Traeth Mawr]], a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym [[Blaenau Ffestiniog|Mlaenau Ffestiniog]], ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, [[Rheilffordd Ffestiniog]] i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]] collodd y porthladd ei bwysigrwydd. |
Fersiwn yn ôl 12:28, 21 Tachwedd 2016
Porthmadog | |
Porthladd Porthmadog - a roddodd yr enw i'r dref; man allforio llechi. |
|
Porthmadog yn: Gwynedd | |
Poblogaeth | 4,187 |
---|---|
Cyfeirnod grid yr AO | SH565385 |
Cymuned | Porthmadog |
Sir | Gwynedd |
Sir seremonïol | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Tref bost | PORTHMADOG |
Rhanbarth cod post | LL49 |
Cod deialu | 01766 |
Heddlu | Gogledd Cymru |
Tân | Gogledd Cymru |
Ambiwlans | Cymru |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd |
Tref yng Ngwynedd yw Porthmadog neu Port[1] ar lafar, sydd wedi'i leoli ar aber Afon Glaslyn yn Eifionydd, Gwynedd. Saif oddeutu 8 km (5 milltir) o Gricieth. Mae Caerdydd 173.4 km i ffwrdd o Borthmadog ac mae Llundain yn 316.6 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 33 km i ffwrdd.
Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn Sir Gaernarfon. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187.
Hanes
Hanes diweddar
Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r Traeth Mawr, a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd.
Yr oedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yn y dref hefyd. Efallai mai'r mwyaf enwog o longau Porthmadog oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed. Yn 1913 lansiwyd y Gestiana, y llong olaf i'w hadeiladu yma.
Olion hynafol
Ceir clwstwr cytiau caeëdig Parc y Borth gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.
Y dref heddiw
Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn "Fynedfa i Eryri" oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog, a ddefnyddir ddyddiau hyn i gario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, a Rheilffordd Eryri, sy'n mynd i Gaernarfon, yn boblogaidd iawn.
Mae Clwb Pêl Droed Porthmadog yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray.
Enwogion
- Eliseus Williams (Eifion Wyn), bardd; cafodd ei eni yn Mhorthmadog ar yr 2 Mai, 1867.
- Robert Lloyd Jones (1878 - 1959), nofelwr, awdur llyfrau plant a dramodydd.
- Edward Breese Hynafiaethydd
- Charles Edward Breese Hynafiaethydd ac Aelod Seneddol
- William Alexander Madocks Sylfaenydd y porthladd ac ysbrodoliaeth ei henw
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Atyniadau eraill
Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.
-
Pentref bychan Borth-y-Gest
-
Canol y dre, tua 1885
-
Port yn y nos
-
Noswaith yn harbwr Porthmadog
-
Tai newydd ar y cei
-
Porthmadog
-
Stryd Fawr Porthmadog
Cyfeiriadau
- ↑ British Broadcasting Corporation : What's in a Name : Porthmadog
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr