Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Selyf ap Cynan"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 209 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
rhyngwici
B
(rhyngwici)
Yr oedd '''Selyf ap Cynan''' neu '''Selyf ap Cynan Garwyn''' (m. tua [[615]]), yn dywysog o'r hen [[teyrnas Powys|Bowys]]. Roedd yn fab i'r brenin [[Cynan Garwyn]], gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd [[Taliesin]]. Ei daid oedd [[Brochfael Ysgithrog]], brenin Powys ganol y [[6ed ganrif]]. Cyfeirir at Selyf weithiau fel 'Selyf Sarffgadau'. Daeth ei fab, [[Manwgan ap Selyf]], yn frenin Powys.
 
Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r [[Y Mers|Gororau]]. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]''). Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dynghedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].
 
Cyfeirir at [[Arofan]] fel "bardd Selyf ap Cynan" yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Mewn triawd arall, mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda [[Urien Rheged|Urien fab Cynfarch]] (Urien Rheged) ac [[Afaon fab Taliesin]]. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]], enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
 
[[en:Selyf ap Cynan]]

Llywio