Selyf ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Yr oedd '''Selyf ap Cynan''' neu '''Selyf ap Cynan Garwyn''' (m. tua 615), yn dywysog o'r hen Bowys. Roedd yn fab i'r brenin Cynan Garwyn, gwrthrych un o'r ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Selyf ap Cynan''' neu '''Selyf ap Cynan Garwyn''' (m. tua [[615]]), yn dywysog o'r hen [[teyrnas Powys|Bowys]]. Roedd yn fab i'r brenin [[Cynan Garwyn]], gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd [[Taliesin]]. Ei daid oedd [[Brochfael Ysgithrog]], brenin Powys ganol y [[6ed ganrif]].

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r [[Y Mers|Gororau]]. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]''). Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dynghedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau.
Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]''). Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dynghedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].

Cyfeirir at [[Arofan]] fel "bardd Selyf ap Cynan." Yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]] mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda [[Urien Rheged|Urien fab Cynfarch]] (Urien Rheged) ac [[Afaon fab Taliesin]]. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]], enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Fersiwn yn ôl 16:59, 6 Medi 2007

Yr oedd Selyf ap Cynan neu Selyf ap Cynan Garwyn (m. tua 615), yn dywysog o'r hen Bowys. Roedd yn fab i'r brenin Cynan Garwyn, gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith Gymraeg, sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd Taliesin. Ei daid oedd Brochfael Ysgithrog, brenin Powys ganol y 6ed ganrif.

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad i geisio amddiffyn Powys rhag yr Eingl-Sacsoniaid. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y Brythoniaid a syrthiodd ym Mrwydr Caer (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr Annales Cambriae). Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dynghedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd Cymru a'r Hen Ogledd.

Cyfeirir at Arofan fel "bardd Selyf ap Cynan." Yn Nhrioedd Ynys Prydain mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda Urien fab Cynfarch (Urien Rheged) ac Afaon fab Taliesin. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Ceir cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy hefyd, fel un o farchogion Arthur (does dim sail hanesyddol i'r cyplysiad hwnnw).

Ffynhonnell

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)