Maredudd ap Cynan ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Maredudd ap Cynan ab Owain''' neu '''Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd''' (m. 1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn...
 
iw en:
Llinell 9: Llinell 9:
[[Categori:Marwolaethau 1212]]
[[Categori:Marwolaethau 1212]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]

[[en:Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd]]

Fersiwn yn ôl 15:21, 5 Medi 2007

Maredudd ap Cynan ab Owain neu Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Gruffudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.

Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.

Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.

Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn 1212. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r tywysog o'r un enw) a Llywelyn Fychan.