Elffin ap Gwyddno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Elffin ap Gwyddno''' yw noddwr [[Taliesin Ben Beirdd]] yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' a thraddodiadau eraill o'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato weithiau fel '''Elffin''' yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw '''Elphin''' ([[Llyfr Taliesin]] 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol [[Gwyddno Garanhir]], a gysylltir â [[teyrnas Ceredigion|theyrnas Ceredigion]] a chwedl [[Cantre'r Gwaelod]].
'''Elffin ap Gwyddno''' yw noddwr [[Taliesin Ben Beirdd]] yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' a thraddodiadau eraill o'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato weithiau fel '''Elffin''' yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw '''Elphin''' ([[Llyfr Taliesin]] 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol [[Gwyddno Garanhir]], a gysylltir â [[teyrnas Ceredigion|theyrnas Ceredigion]] a chwedl [[Cantre'r Gwaelod]].


Yn ôl y testun achyddol ''Bonedd Gwŷr y Gogledd'' ("Achau Rhyfelwyr yr [[Hen Ogledd]]), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid [[Cawrdaf]], a’i hendaid [[Garmonion]], yn un o ddisgynyddion [[Dyfnwal Hen]] ac, efallai, [[Macsen Wledig]] ac [[Elen Luyddog]] (diwedd y 4edd ganrif).<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), t. 238.</ref> Yn ôl cofnod yn llawysgrif [[Peniarth 131]] (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn ''Yr Areithiau Pros'', Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, ''y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais''<ref>Gwenallt (gol.), ''Yr Areithiau Pros'', 15.6–9.</ref>.
Yn ôl y testun achyddol ''Bonedd Gwŷr y Gogledd'' ("Achau Rhyfelwyr yr [[Hen Ogledd]]"), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid [[Cawrdaf]], a’i hendaid [[Garmonion]], yn un o ddisgynyddion [[Dyfnwal Hen]] ac, efallai, [[Macsen Wledig]] ac [[Elen Luyddog]] (diwedd y 4edd ganrif).<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991), t. 238.</ref> Yn ôl cofnod yn llawysgrif [[Peniarth 131]] (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn ''Yr Areithiau Pros'', Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"<ref>Gwenallt (gol.), ''Yr Areithiau Pros'', 15.6–9.</ref>.


Cysylltir Elffin ag [[Addaon fab Taliesin]] yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'':
Cysylltir Elffin ag [[Addaon fab Taliesin]] yn y chwedl fwrlesg [[Cymraeg Canol]] ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'':

Fersiwn yn ôl 20:04, 30 Awst 2007

Elffin ap Gwyddno yw noddwr Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl Hanes Taliesin a thraddodiadau eraill o'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato weithiau fel Elffin yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw Elphin (Llyfr Taliesin 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol Gwyddno Garanhir, a gysylltir â theyrnas Ceredigion a chwedl Cantre'r Gwaelod.

Yn ôl y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd ("Achau Rhyfelwyr yr Hen Ogledd"), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid Cawrdaf, a’i hendaid Garmonion, yn un o ddisgynyddion Dyfnwal Hen ac, efallai, Macsen Wledig ac Elen Luyddog (diwedd y 4edd ganrif).[1] Yn ôl cofnod yn llawysgrif Peniarth 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn Yr Areithiau Pros, Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"[2].

Cysylltir Elffin ag Addaon fab Taliesin yn y chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy:

"Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."[3]

Ond cofir Elffin yn bennaf am ei gysylltiad â'r Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Yn ail ran y chwedl Hanes Taliesin, mae Elffin yn cael hyd i'r Taliesin newyddanedig yn hongian mewn cwd lledr ar bolyn yng Ngored Wyddno, ger Aberdyfi, ar fore Calan Mai. Elffin a roes ei enw iddo. Cododd y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.[4] Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill

'Elffin teg, taw a'th wylo;
Ni wna lles drwg obeithio;
Ni chad yng ngored Wyddno
Erioed gystal â henno.'

Yn ddiweddarach, mae Elffin yn gael ei gipio a'i garcharu gan Maelgwn Gwynedd, a geisiai brofi diweirdeb ei wraig. Yn yr ymryson barddol sy'n dilyn, yn llys Maelgwn Gwynedd yn Negannwy, bu gornest rhwng Taliesin a beirdd llys Maelgwn i ryddhau Elffin. Ceir sawl cyfeiriad at hyn yn y cerddi a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin. Cyfeirir ato mewn dau o 'Englynion y Beddau' yn ogystal (Llyfr Du Caerfyrddin). Ar ôl iddo gael ei ryddhau mae Elffin yn ennill ras ceffylau ac yn darganfod crochan sy'n llawn o aur. Dyma'r tal i Elffin a'i wraig am feithrin Taliesin.

Mae Taliesin yn pwysleisio, yn y gerdd 'Hanes Taliesin', mai "prifardd cyffredin" ydyw i Elffin. Cyfeirir at Daliesin sawl gwaith fel bardd Elffin yng ngwaith y beirdd, e.e. gan Lewys Môn a Wiliam Cynwal[5] Weithiau mae beirdd fel Dafydd Benfras a Tudur Aled yn cymharu noddwyr i Elffin.

Cyfeiriadau

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), t. 238.
  2. Gwenallt (gol.), Yr Areithiau Pros, 15.6–9.
  3. Melville Richards (gol.), Breuddwyd Rhonabwy (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.
  4. P.K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992), t. 69.
  5. Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn, XCII.41–2; Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal, 36.53–6; 51.49–50.