William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 46: Llinell 46:
==Ei waith==
==Ei waith==
[[Delwedd:William William Gravestone.jpg|bawd|de|250px|Carreg fedd William Williams, Pantycelyn]]
[[Delwedd:William William Gravestone.jpg|bawd|de|250px|Carreg fedd William Williams, Pantycelyn]]
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, ''Guide me, O thou great Jehovah'' (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn ''Cwm Rhondda'') yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, [[Arglwydd, arwain trwy'r anialwch|''Guide me, O thou great Jehovah'']] (sy'n cynnwys y geiriau ''Bread of Heaven, feed me now and evermore'', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn [[Cwm Rhondda (emyn-dôn)|''Cwm Rhondda'']]) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 17:38, 25 Hydref 2016

William Williams, Pantycelyn
Galwedigaetharweinydd crefyddol, llenor

Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 171711 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.

Ei fywyd

Pantycelyn, Llanfair-ar-y-bryn (ffotograff gan John Thomas, tua 1885)

Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.

Ei waith

Carreg fedd William Williams, Pantycelyn

Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.

Llyfryddiaeth

Llyfrau Pantycelyn

Astudiaethau

Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan; 1991

Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn Derec Llwyd Morgan (gol.), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991)

Dolen allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: