Llywelyn Fardd II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Gweler hefyd Llywelyn Fardd I.'' Yr oedd '''Llywelyn Fardd II''' (fl. tua 1215-1280) yn Ogynfardd a gysylltir â Phowys a [[teyrnas G...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Cedwir testunau'r pedair cerdd yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], a cheir testun un o'r cerddi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.
Cedwir testunau'r pedair cerdd yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], a cheir testun un o'r cerddi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.


Yn ogystal â dwy [[awdl]] i Dduw, ceir awdlau moliant i [[Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn]] o Bowys Wenwynwyn ac i [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]], tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddianus yn ei gaid neu beidio. Yn ei gerdd o Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.
Yn ogystal â dwy [[awdl]] i Dduw, ceir awdlau moliant i [[Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn]] o Bowys Wenwynwyn ac i [[Llywelyn Fawr|Lywelyn Fawr]], tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddianus yn ei gais neu beidio. Yn ei gerdd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]], pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 23:06, 23 Awst 2007

Gweler hefyd Llywelyn Fardd I.

Yr oedd Llywelyn Fardd II (fl. tua 1215-1280) yn Ogynfardd a gysylltir â Phowys a Gwynedd. Fe'i gelwir yn 'Llywelyn Fardd II' gan ysgolheigion am fod o leiaf dau o Feirdd y Tywysogion yn dwyn yr enw Llywelyn Fardd (gweler hefyd Llywelyn Fardd I).

Mae ansicrwydd ynglŷn ag awduraeth rhai o'r cerddi a dadogir ar 'Lywelyn Fardd' yn y llawysgrifau, ond mae'r gwahaniaeth rhwng dyddiadau'r cerddi yn dangos fod pedair cerdd i'w dadogi'n weddol ddiogel ar Lywelyn Fardd II. Mae tystiolaeth y cerddi hynny yn awgrymu iddo fwynhau gyrfa hir o tua 1215 hyd tua 1280. Ni wyddys dim amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r rhain yn dangos cysylltiad cryf â de Powys (Powys Wenwynwyn).

Cedwir testunau'r pedair cerdd yn Llawysgrif Hendregadredd, a cheir testun un o'r cerddi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.

Yn ogystal â dwy awdl i Dduw, ceir awdlau moliant i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys Wenwynwyn ac i Lywelyn Fawr, tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddianus yn ei gais neu beidio. Yn ei gerdd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, Gruffudd ap Gwenwynwyn, pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.

Llyfryddiaeth

  • Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch