Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn ''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'. |
*Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn ''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'. |
||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
Fersiwn yn ôl 17:13, 23 Awst 2007
Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys.
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.
Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.
Llyfryddiaeth
- Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Dolenni allanol