Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 51: Llinell 51:


</div><!-- end of floated right section; article starts here -->
</div><!-- end of floated right section; article starts here -->
[[Prifysgol]] yn [[Llanbedr Pont Steffan]]. Ar ôl prifysgolion hynafol [[Rhydychen]] a [[Caergrawnt|Chaergrawnt]] a phrifysgolion [[yr Alban]], dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o [[israddedigion]], Llanbedr Pont Steffan yw'r brifysgol leiaf yn Ewrop ac ar yr un pryd.
[[Prifysgol]] yn [[Llanbedr Pont Steffan]]. Ar ôl prifysgolion hynafol [[Rhydychen]] a [[Caergrawnt|Chaergrawnt]] a phrifysgolion [[yr Alban]], dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o [[israddedigion]], Llanbedr Pont Steffan yw'r brifysgol leiaf yn Ewrop.


==Hanes==
==Hanes==
Llinell 80: Llinell 80:
'''Y [[llyfrgell]] newydd''' a agorwyd gan [[Dug Caeredin|Ddug Caeredin]], Canghellor o'r Brifysgol Cymru, ym [[1966]].
'''Y [[llyfrgell]] newydd''' a agorwyd gan [[Dug Caeredin|Ddug Caeredin]], Canghellor o'r Brifysgol Cymru, ym [[1966]].


'''Adeilad y [[Celfyddydau]]''' a agorwyd gan Peter Thomas, [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym [[1971]].
'''Adeilad y [[Celfyddydau]]''' a agorwyd gan Peter Thomas, [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym [[1971]], ar yr un pryd.o'r agoriad Adran Daearyddiaeth newydd.


'''[[Theatr]] Cliff Tucker''' a agorwyd gan Syr [[Anthony Hopkins]] ym [[1995]].
'''[[Theatr]] Cliff Tucker''' a agorwyd gan Syr [[Anthony Hopkins]] ym [[1995]].

Fersiwn yn ôl 13:39, 16 Ebrill 2005

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Delwedd:1822lamp.gif

Arwyddair Gair Duw Goreu Dysg
Sefydlu 1822
Canghellor (PC) Tywysog Cymru
Dirprwy Ganghellor (PC) Dafydd Wigley
Is-Ganghellor yr Athro Robert A Pearce
Lleoliad Llanbedr Pont Steffan, Cymru, DU
Myfyrwyr 2,000
Aelod Prifysgol Cymru
Hafan www.lamp.ac.uk

Prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl prifysgolion hynafol Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion yr Alban, dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o israddedigion, Llanbedr Pont Steffan yw'r brifysgol leiaf yn Ewrop.

Hanes

Pan benodwyd Thomas Burgess yn Esgob Tyddewi ym 1803 teimlodd angen mawr i sefydlu Coleg lle y gallai dynion ifanc hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth.

Nid oedd gan Burgess unrhyw gysylltiadau Cymreig; fe'i ganed yn Lloegr ym 1756 ac ar ôl treulio amser yng Nghaerwynt a Rhydychen arhosodd am gyfnodau byr yn Salisbury a Durham cyn cael ei benodi i'w esgobaeth gyntaf yng Nghymru ym 1803. Gadawodd ym 1825 i fod yn Esgob Salisbury a bu farw ym 1837. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn Llanddewi Brefi (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill Esgob Caerloyw ym 1820 cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw).

Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar Wyl Ddewi 1827. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym 1828. Am dros ganrif yr oedd yn goleg gradd annibynnol, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, ond gan gadw cyswllt agos â'r eglwys. Yn y 1960au tyfodd cysylltiadau â Prifysgol Cymru ac yn sgil hynny daeth yn gymwys i dderbyn cymorth llawn gan y Trysorlys. Ym 1971 daeth yn sefydliad cyfansoddol o Brifysgol Cymru a'i alw'n Goleg Prifysgol Dewi Sant. Ym 1996 mewn ymateb i ddeiseb o'r Brifysgol - newidiwyd y teitl gan y Cyfrin Gyngor i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn unol â datblygiadau o fewn y brifysgol ei hun ac er mwyn cydnabod twf a newid yn statws y sefydliad.

Heddiw mae Llanbedr Pont Steffan yn un o'r deg Sefydliad Cyfansoddol sy'n ffurfio Prifysgol Ffederal Cymru sydd, ar ôl Prifysgol Llundain, gyda'r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Adeiladau

Yr Hen Goleg

Yr Adeilad Dewi Sant

Yr Hen Adeilad, sef Adeilad Dewi Sant heddiw, oedd yr adeilad gwreiddiol a gynlluniwyd gan C.R. Cockerell a dyma lety'r myfyrwyr cyntaf ym 1827. Mae'n cynnwys ystafelloedd darlithio, ystafelloedd cyffredin, llety myfyrwyr a'r canlynol:

Yr Hen Neuadd sef y ffreutur tan agor y ffreutur bresennol - ym 1969 - ac ni bu llawer o ddefnydd ohoni tan 1991 pan gafodd ei hadnewyddu a'i hailagor; erbyn hyn mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel un o'r prif ystafelloedd cyhoeddus ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau ac i'w defnyddio gan gyrff allanol.

Adnewyddwyd Capel Dewi Sant yn ystod y 1930au yn bennaf trwy ddarparu reredos newydd ym 1933 ac atgyweirio sylweddol ar yr organ ym 1934.

Llyfrgell Y Sylfaenwyr oedd llyfrgell y coleg hyd at agor y llyfrgell newydd ym 1966 ac erbyn hyn mae'n diogelu casgliad o tua 20,000 o lyfrau a chyfnodolion a argraffwyd rhwng 1470 a 1850. Mae'r casgliad yma yn hollol unigryw i Lanbedr Pont Steffan.

Adeiladau Newydd

Yr Adeilad Caergaint Gwreiddiol

Yr Adeilad Caergaint a agorwyd ym 1897, ond dymchwelwyd ym 1971. Yr adeilad Caergaint newydd a agorwyd gan y Is-Ganghellor o'r Prifysgol Caint yn Caergaint ym 1973.

Y llyfrgell newydd a agorwyd gan Ddug Caeredin, Canghellor o'r Brifysgol Cymru, ym 1966.

Adeilad y Celfyddydau a agorwyd gan Peter Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1971, ar yr un pryd.o'r agoriad Adran Daearyddiaeth newydd.

Theatr Cliff Tucker a agorwyd gan Syr Anthony Hopkins ym 1995.

Adeilad Sheikh Kalifa (yr Adran Ddiwinyddiaeth newydd) a agorodd yn Ffordd y Coleg yn Hydref 1997.

Y Gweiddi Goleg

O'r llawlyfr myfyrwyr 1938-39

Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Hip Hip Hooray
Nawr Dewi. Nawr Dewi. Nawr Dewi.
Dy Blant. Dy Blant. Dy Blant.
Backshe Odinthorog. Backshe Odinthorog.
Niri Giri Wari. Niri Giri Wari.
Zey Zey Zey
Bing Bang Odin. Bing Bang Odin.
Io Dewi. Io Dewi. Io Dewi.
Dewi Sant. Dewi Sant. Dewi Sant.
Hooray!

Academyddion Hynod

Graddedigion

Adrannau