Al Anbar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 24: Llinell 24:




{{Taleithiau Irac}}
[[Categori:Taleithiau Irac]]
[[Categori:Taleithiau Irac]]



Fersiwn yn ôl 16:28, 12 Awst 2007

Talaith Al Anbar

Talaith Al Anbar (Arabeg محافظة الأنبار) yw'r fwyaf yn Irac. Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad, rhwng dyffryn ffrwythlon Afon Euphrates yn y dwyrain a'r ffin â Saudi Arabia, Gwlad Iorddonen a Syria yn y gorllewin. Ei phrifddinas yw Ar Ramadi.

Mae rhan fawr o'r dalaith yn ddiffeithdir sy'n gorwedd yn rhan dwyreiniol Diffeithwch Syria, neu'n dir amethyddol ymylol. Mae mwyafrif helaeth y trigolion yn Fwslemiaid Sunni. Mae enw y dalaith yn air Perseg (انبار ’Anbār) ac yn golygu "emporiwm"; atgof o'r amser pan fu'r ardal yr entrepot pwysicaf ar ffiniau gorllewinol ymerodraeth y Sassaniaid. Cysylltir y diwinydd Sunni enwog, Abu Hanifa al-Anbari, sefydlyd Hanaffiaeth, ysgol athronyddol fwyaf y Sunniaid, â'r rhanbarth.

Cyn 1976 Ramadi oedd enw'r dalaith a chyn 1962 Dulaim oedd ei henw. Mae tua 1,200,000 o bobl yn byw yn y dalaith heddiw.

Mae dinas Fallujah yn Anbar a dyma ganolfan y gwrthwynebiad Ba'athaidd a Sunni i'r goresgyniad o Irac gan yr Unol Daleithiau.

Dinasoedd a threfi


Taleithiau Irac Baner Irac
Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit