Llanychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
comin
BDim crynodeb golygu
Llinell 21: Llinell 21:
| membership =
| membership =
| attendance =
| attendance =
| website =
| website = [http://www.friendsoffriendlesschurches.org.uk/CMSMS/index.php?page=ynyscynhaearn Friends of Friendless Churches]
| former name =
| former name =
| bull date =
| bull date =

Fersiwn yn ôl 12:00, 26 Medi 2016

Llanychan
Eglwys Sant Hychan
Eglwys Sant Hychan o'r fynedfa
LleoliadGer Rhuthun, Sir Ddinbych
GwladCymru
CristnogaethYr Eglwys yng Nghymru
Hanes
Cysegrwyd iSant Hychan
Pensaerniaeth
Statws gweithredolAr ddefnydd
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II*
Dynodiad19 Gorffennaf 1966
PensaerniaethEglwys (adeilad)
Torri tywarchen12fed ganrif
Manylion
Cynulleidfac. 80
DefnyddCarreg gyda tho llechan

Eglwys a phentreflan yw Llanychan (neu Eglwys Hychan Sant), a saif rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun (Cyfeirnod OS: SJ 114621). Ceir rheithordy o frics coch o'i blaen, ac felly anodd yw gweld yr eglwys o'r ffordd fawr, a llond llaw o dai anedd eraill. Enwyd yr eglwys hynafol hon ar ôl Sant Hychan a fu'n byw ar y safle yn 450 OC, ac mae'r cofnod cyntaf o'r eglwys bresennol yn mynd yn ôl i 1254. Roedd yma ysgol hyd at ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Cofrestrwyd yr eglwys yn Gradd II* ar 19 Gorffennaf 1966 gan Cadw; rhif cofrestru: 787. Mae distiau pren yn y to yn dyddio o'r 16C.

Plas Coch, Llanychan.

Mae'n blwyf o 567 erw - plwyf lleiaf Esgobaeth Llanelwy. Mae'r pentref oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ruthun.

Dim ond dwy eglwys yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl Sant Hychan, a dyma un ohonynt. Sonir am yr eglwys hon gyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich yn 1254.[1] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd

Cyfeiriadau