Ci Canaan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat |
manion |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Canaan Dog.jpg|bawd|Ci Canaan]] |
[[Delwedd:Canaan Dog.jpg|bawd|Ci Canaan]] |
||
[[Ci sodli]] sy'n tarddu o [[Israel]] yw '''Ci Canaan'''. [[Gwarchotgi|Gwarchotgwn]] a [[helgi|helgwn]] a fu'n byw yn y wlad ers oes [[y Beibl]] yw ei hynafiaid. Dros amser, trodd y mwyafrif ohonynt yn [[ci ysgymun|gŵn ysgymun]] hanner-gwyllt oedd yn byw yn yr anialwch. Dechreuodd |
[[Ci sodli]] sy'n tarddu o [[Israel]] yw '''Ci Canaan'''. [[Gwarchotgi|Gwarchotgwn]] a [[helgi|helgwn]] a fu'n byw yn y wlad ers oes [[y Beibl]] yw ei hynafiaid. Dros amser, trodd y mwyafrif ohonynt yn [[ci ysgymun|gŵn ysgymun]] hanner-gwyllt oedd yn byw yn yr anialwch. Dechreuodd rhaglen fridio yn y [[1930au]] i ailddofi'r cŵn a'u hyfforddi'n warchotgwn ar gyfer [[cibwts]]au. |
||
Ci cryf, deallus a hawdd ei hyfforddi yw Ci Canaan. Mae'n hoff o chwarae ac yn ffyddlon i'w berchennog a'i deulu ond yn ochelgar gyda phobl ddieithr. |
Defnyddid cŵn Canaan yn ystod [[Rhyfel Israel 1948|Rhyfel 1948]] fel negesyddion, gwyliedyddion ac i leoli [[ffrwydryn tir|ffrwydron tir]]. Ym 1949 cafodd y dasg o ddatblygu'r brîd newydd ei gymryd gan sefydliad [[ci tywys|cŵn tywys]].<ref name=EB/> |
||
Ci cryf, deallus a hawdd ei hyfforddi yw Ci Canaan. Mae'n hoff o chwarae ac yn ffyddlon i'w berchennog a'i deulu ond yn ochelgar gyda phobl ddieithr. Saif tua 48 i 61 cm o uchter ac mae'n pwyso 16 i 25 kg. Mae ganddo glustiau sy'n sefyll i fyny a chynffon drwchus sy'n troi'n ôl dros y cefn. Mae ganddo gôt ddwbl o flew byr, sy'n wyn gyda marciau brown, du neu goch, neu'n lliw du neu frown gyda marciau gwynion.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/animal/Canaan-dog |teitl=Canaan dog |dyddiadcyrchiad=21 Medi 2016 }}</ref> |
|||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
Fersiwn yn ôl 06:57, 22 Medi 2016
Ci sodli sy'n tarddu o Israel yw Ci Canaan. Gwarchotgwn a helgwn a fu'n byw yn y wlad ers oes y Beibl yw ei hynafiaid. Dros amser, trodd y mwyafrif ohonynt yn gŵn ysgymun hanner-gwyllt oedd yn byw yn yr anialwch. Dechreuodd rhaglen fridio yn y 1930au i ailddofi'r cŵn a'u hyfforddi'n warchotgwn ar gyfer cibwtsau.
Defnyddid cŵn Canaan yn ystod Rhyfel 1948 fel negesyddion, gwyliedyddion ac i leoli ffrwydron tir. Ym 1949 cafodd y dasg o ddatblygu'r brîd newydd ei gymryd gan sefydliad cŵn tywys.[1]
Ci cryf, deallus a hawdd ei hyfforddi yw Ci Canaan. Mae'n hoff o chwarae ac yn ffyddlon i'w berchennog a'i deulu ond yn ochelgar gyda phobl ddieithr. Saif tua 48 i 61 cm o uchter ac mae'n pwyso 16 i 25 kg. Mae ganddo glustiau sy'n sefyll i fyny a chynffon drwchus sy'n troi'n ôl dros y cefn. Mae ganddo gôt ddwbl o flew byr, sy'n wyn gyda marciau brown, du neu goch, neu'n lliw du neu frown gyda marciau gwynion.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Canaan dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2016.