Stephanie Booth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Stephanie Anne Boot'''h; ganwyd ''Keith Michael Hull''; (25 Mai, 1946 - 18 Medi, 2016), yn wraig busnes Seisnig oedd yn ca...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:05, 21 Medi 2016

Roedd Stephanie Anne Booth; ganwyd Keith Michael Hull; (25 Mai, 1946 - 18 Medi, 2016), yn wraig busnes Seisnig oedd yn cadw nifer o westai yn ardal Llangollen a fu'n destun y gyfres teledu realiti, Hotel Stephanie a darlledwyd ar BBC Cymru yn 2008 a 2009.

Derbyniodd triniaeth cyfnewid rhyw ym 1983, wedi hynny sefydlodd y cwmni Transformation y busnes cyntaf yng Ngwledydd Prydain i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer pobl draws rhywiol.

Wedi ei llawdriniaeth roedd yn defnyddio'r enw Stephanie Anne Lloyd, hyd ei phriodas a David Booth yn Sri Lanca ym 1983.[1]

Bu farw ar ei fferm yng Nghorwen o ganlyniad i ddamwain tractor.[2]

  1. THE STORY OF STEPHANIE ANNE LLOYD Tud 9
  2. Daily Post Shock as Stephanie Booth dies in tractor crash tragedy