Prifysgol Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Penyderyn (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Penyderyn (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 15: Llinell 15:
| swyddog_rheoli =
| swyddog_rheoli =
| cadeirydd =
| cadeirydd =
| canghellor = [[Syr Emyr Jones Parry]]
| canghellor = Syr [[Emyr Jones Parry]]
| llywyd =
| llywyd =
| is-lywydd =
| is-lywydd =

Fersiwn yn ôl 09:14, 29 Awst 2016

Aberystwyth
Prif fynedfa'r Hen Goleg
Arwyddair Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth
Sefydlwyd 1872
Math Cyhoeddus
Canghellor Syr Emyr Jones Parry
Is-ganghellor Yr Athro April McMahon
Staff 5,230
Myfyrwyr 12,245[1]
Israddedigion 8,260[1]
Ôlraddedigion 2,500[1]
Lleoliad Aberystwyth, Baner Cymru Cymru
Tadogaethau Prifysgol Cymru
AMBA
ACU
University Alliance
Universities UK
HiPACT
SEDA
HEA
Gwefan http://www.aber.ac.uk/cy/

Prifysgol yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Hyd fis Medi 2007 ei henw swyddogol oedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1872 yr agorwyd sefydliad prifysgol cyntaf Cymru — 'y Coleg ger y Lli'. Y prifathro cyntaf oedd Thomas Charles Edwards, ac ar y cychwyn 26 o fyfyrwyr oedd yn astudio yno. Bellach, mae yno dros 7,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys bron i 2,000 o Gymru, a thros 1,100 o uwchraddedigion. Mae yno ddeunaw adran academaidd, sy'n dysgu ystod eang o bynciau.

Un o adrannau enwocaf y brifysgol yw Adran y Gymraeg. Yn Asesiad Ymchwil 2001 llwyddodd yr Adran i wella ar ei chanlyniad yn 1996 (pan ddyfarnwyd gradd 5A iddi). Y tro hwn dyfarnwyd gradd 5*A iddi, y radd uchaf un. Golyga hyn fod y Panel Asesu o'r farn bod dros hanner y gweithiau a gyflwynwyd gan yr Adran o safon rhagoriaeth ryngwladol, a'r cyfan o'r gweddill o safon rhagoriaeth genedlaethol. Mae yno amrywiaeth o staff academaidd gyda nifer ohonynt yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd.[angen ffynhonnell]

Arfbais y Brifysgol.

Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar gyfer nifer o fodiwlau yn yr Adran Hanes ac Adran y Gyfraith a Throseddeg, ynghyd ag ychydig o bynciau eraill.

Y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ym mlwyddyn academaidd 2014-2015, roedd tua 1068 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hyn yn ostyngiad o tua 79 o fyfyrwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol