Ioan Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 135: Llinell 135:
*1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r [[Y Gymuned Ewropeaidd|Gymuned Ewropeaidd]] <ref>[http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U163984 ''EVANS, Ioan (Lyonel)'', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014] adalwyd 11 Awst 2016</ref>
*1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r [[Y Gymuned Ewropeaidd|Gymuned Ewropeaidd]] <ref>[http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U163984 ''EVANS, Ioan (Lyonel)'', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014] adalwyd 11 Awst 2016</ref>


Yn dilyn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974|etholiad cyffredinol mis Hydref 1974]] cafodd cynnig i wasanaethu fel [[Ysgrifennydd Seneddol Preifat|ysgrifennydd preifat]] i [[John Morris (aelod seneddol)|John Morris]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu [[Datganoli|cynulliad datganoledig]] i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979 ac yn ystod [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1979|refferendwm datganoli 1979]] fe fu'n un o'r [[Gang o Chwech|gang o chwech]] o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli.
Yn dilyn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974|etholiad cyffredinol mis Hydref 1974]] cafodd cynnig i wasanaethu fel [[Ysgrifennydd Seneddol Preifat|ysgrifennydd preifat]] i [[John Morris (aelod seneddol)|John Morris]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu [[Datganoli|cynulliad datganoledig]] i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979. Yn ystod [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1979|refferendwm datganoli 1979]] fe fu'n un o'r [[Gang o Chwech|gang o chwech]] o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli.


==Marwolaeth==
==Marwolaeth==

Fersiwn yn ôl 05:57, 12 Awst 2016

Roedd Ioan Lyonel Evans (10 Gorffennaf 1927 - 10 Chwefror 1984) yn wleidydd Llafur a Chydweithredol Cymreig ac yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1970 dros Firmingham Yardley ac yna dros Aberdâr a Chwm Cynon rhwng 1974 a'i marwolaeth.[1]

Bywyd Personol

Ganwyd Evans yn Llanelli, yn fab i Evan Evans adeiladydd a goruchwyliwr gwaith

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe

Ym 1949 priododd â Maria Griffiths; bu iddynt un mab ac un ferch.

Gyrfa

Hyfforddwyd Evans fel clerc ym Manc y Midland rhwng 1943 a 1945. Ym 1945, wedi cyrraedd 18 oed ymunodd a'r fyddin i gyflawni ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gorfodol gan ddychwelyd i fywyd sifil ym 1948. Rhwng 1948 a 1950 bu'n gweithio fel darlithydd i Mudiad Addysg y Gweithwyr a'r Coleg Llafur Cenedlaethol.

Rhwng ei dau gyfnod yn Nhŷ'r Cyffredin bu Evans yn gweithio fel cyfarwyddwr Y Gronfa Amddiffyn ac Awyr Rhyngwladol.[2]

Gyrfa Wleidyddol

Gwasanaethodd Evans fel cadeirydd Cynghrair Ieuenctid Llafur o 1948 hyd at 1950, bu'n ysgrifennydd Cangen Penbedw o'r Blaid Gydweithredol rhwng 1950 a 1953 a changen Birmingham o'r blaid rhwng 1953 a 1964. Bu'n asiant y Blaid Lafur ym Mirmingham yn ystod etholiadau cyffredinol 1955 a 1959.

Safodd fel ymgeisydd Llafur a'r Blaid Cydweithredol yn etholaeth Birmingham Yardley yn etholiad 1964 gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 169 pleidlais, daliodd ei afael ar y sedd yn etholiad 1966 gan gynyddu ei fwyafrif i 5,795. Yn etholiad 1970 collodd y sedd i'r Ceidwadwyr trwy fod yn brin o 120 pleidlais:

Etholiad cyffredinol 1964: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ioan Lyonel Evans 22,788 50.19
Ceidwadwyr Leonard Harry Cleaver 22,619 49.81
Mwyafrif 169 0.37
Y nifer a bleidleisiodd 77.05
Llafur yn cipio etholaeth newydd
Etholiad cyffredinol 1966: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ioan Lyonel Evans 25,568 56.35
Ceidwadwyr Leonard Harry Cleaver 19,809 43.65
Mwyafrif 5,759 12.69
Y nifer a bleidleisiodd 77.62
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1970: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Derek Michael Coombs 21,827 50.14
Llafur Ioan Lyonel Evans 21,707 49.86
Mwyafrif 120 0.28
Y nifer a bleidleisiodd 69.70
Ceidwadwyr yn cipio etholaeth newydd

Wedi ymddeoliad Arthur Probert o'r Senedd ym mis Chwefror 1974 dewiswyd Evans yn olynydd iddo, llwyddodd i gadw'r sedd i Lafur hyd ei ddiddymiad ar adeg etholiad cyffredinol 1983

Ym 1983 safodd yn etholaeth newydd Cwm Cynon gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1984.

Yn ystod ei ddau gyfnod yn y senedd ddaliodd nifer o swyddi yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid gan gynnwys:

  • Is gadeirydd grŵp ASau Llafur gorllewin Canolbarth Lloegr
  • 1965 - 1966 Ysgrifennydd Preifat i'r Postfeist Cyffredinol (Tony Benn)
  • 1966 - 1968 Chwip cynorthwyol y Llywodraeth
  • 1968 - 1970 Prif Chwip y Llywodraeth a Distain Gosgordd ei Mawrhydi
  • Dirpwy i Gynulliad Ymgynghorol Cyngor Ewrop
  • 1974 - 1984 Aelod o grŵp anableddau'r Blaid Seneddol Llafur
  • 1974 -1984 Aelod o grŵp prisiau ac amddiffyn y prynwr y Blaid Seneddol Llafur
  • 1974 - 1984 Aelod o grŵp masnach y Blaid Seneddol Llafur
  • 1981 - 1984 Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol ar Faterion Rhyngwladol
  • 1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd [3]

Yn dilyn etholiad cyffredinol mis Hydref 1974 cafodd cynnig i wasanaethu fel ysgrifennydd preifat i John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu cynulliad datganoledig i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979. Yn ystod refferendwm datganoli 1979 fe fu'n un o'r gang o chwech o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli.

Marwolaeth

Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Ruslip swydd Middlesex yn 56 mlwydd oed [4] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Elfan, Aberdâr.

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Leonard Cleaver
Aelod Seneddol Birmingham Yardley
19641970
Olynydd:
Derek Coombs
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Probert
Aelod Seneddol Aberdâr
19741983
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Cwm Cynon
19831984
Olynydd:
Ann Clwyd