Canolbarth a Gorllewin Cymru (Etholaeth Ewropeaidd)): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Penyderyn (sgwrs | cyfraniadau)
Disgrifiad o Etholaeth Ewropeaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:54, 7 Awst 2016

Crewyd etholaeth Ewropeaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 1979. Bryd hynny roedd yn cynnwys Sir Dyfed, etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, Dinas Abertawe a Chastell Nedd. Yr Aelod Seneddol Ewropeaidd gyntaf i gynrychioli'r etholaeth oedd Ann Clwyd. Fe'i holynwyd hi yn 1984 gan David Morris. Ym 1994 newidiwyd y ffiniau yn sylweddol wrth i nifer yr etholaethau Ewropeaidd yng Nghymru gynyddu o 4 i 5. Er i'r etholaeth gadw'r un enw - roedd y ffiniau newydd yn dra wahanol gyda siroedd Dyfed, Powys ac etholaeth Meirionnydd Nant Conwy yn ffurfio rhan o'r etholaeth newydd. Etholwyd Eluned Morgan fel ASE cyntaf y sedd newydd yn 1994, ac fe ddilewyd y sedd wrth gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ym 1999.