Crimea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ailwampio
nid cyfoes
Llinell 1: Llinell 1:
{{cyfoes}}
: ''Am y bwlch yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler [[Bwlch y Gorddinan]].''
: ''Am y bwlch yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler [[Bwlch y Gorddinan]].''



Fersiwn yn ôl 06:36, 16 Gorffennaf 2016

Am y bwlch yng Ngwynedd a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler Bwlch y Gorddinan.
Mynyddoedd Crimea ger dinas Alushta.

Mae Penrhyn y Crimea neu Crimea (Rwsieg: Крымский полуостров; Tatareg Crimea: Qırım yarımadası; Wcraineg: Кримський півострів) yn ddarn mawr o dir ar arfordir gogleddol y Môr Du ac sydd bron wedi'i amgylchynnu gan ddŵr. Saif i'r de o Wcrain ac i'r gorllewin o Kuban, Rwsia. Ers 2014 mae'r Crimea yn ffurfio Dosbarth Ffederal Crimea, sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Sevastopol.

Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a Môr Azov tua'r dwyrain gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.

Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid ethnig, gyda hefyd Wcrainiaid (24%) a Thatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001), er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol dan feddiant Wcrain oedd yr Wcraineg, ond ers ailymuno a Rwsia yn 2014 mae'r Rwsieg, Wcreineg a'r Datareg yn ieithoedd swyddogol.

Perchnogaeth

Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn Wcrain

Yn 2014 cafwyd cryn ddadlau ynghylch perchnogaeth y Crimea. Bu'n rhan o Rwsia o'r 18fed ganrif ymlaen. Arosodd yn rhan o Rwsia pan sefydlwyd yr Undeb Sofietaidd. O ganol y 1950au, pan benderfynodd Nikita Khrushchev ei roi i Weriniaeth Sofietaidd Wcrain, hyd 2014 fe'i gweinyddwyd fel gweriniaeth hunanlywodraethol o dan reolaeth Wcrain. Enw swyddogol y weriniaeth honno oedd Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea (Wcraineg Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea Qırım Muhtar Cumhuriyeti).

Ym Mawrth 2014, yn dilyn y chwyldro neu coup yn Kiev a ddisodlodd yr Arlywydd Petroshenko, pleidleisiodd trigolion y Crimea dros sefydlu Gweriniaeth Crimea. Ar y pryd, dim ond Rwsia oedd yn ei chydnabod; gweler Rhestr gwledydd anghydnabyddedig.

Hanes

Coloneiddwyd y Crimea gan y Groegiaid yn y 6ed ganrif CC. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y Gothiaid, yr Hyniaid ac eraill. Yn 1239 cafodd ei wneud yn khaniad gan Tatariaid yr Haid Euraidd. Cipiwyd y khaniad gan y Tyrciaid yn 1475 a chafodd y Crimea ei feddiannu gan Rwsia yn 1783. Rhwng 1853 a 1856 ymladdwyd Rhyfel y Crimea yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd Prydain, Ffrainc ac Ymerodraeth yr Otomaniaid ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd (1941-1943). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i Wsbecistan yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau