Y Faner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu; gwiro
ehangu; gwiro
Llinell 19: Llinell 19:
*''[[Y Gwyliedydd]]'' (1877)
*''[[Y Gwyliedydd]]'' (1877)
*''[[Y Llan|Llan a'r Dywysogaeth]]'' (1881)
*''[[Y Llan|Llan a'r Dywysogaeth]]'' (1881)

==Gweler hefyd==
*''[[Y Faner Newydd]]'' - [[Cylchgrawn]] [[Cymraeg]] annibynnol a sefydlwyd yn [[1997]] gan [[Emyr Llywelyn]] ac [[Ieuan Wyn]] (a chydolygyddion). Mae'r enw yn deyrnged i'r ''Y Faner''.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:10, 25 Mehefin 2016

Cyfrol 1, rhif 1; blaendudalen rhifyn cyntaf o Faner ac Amserau Cymru; 4 Mawrth 1857

Papur newydd wythnosol, rhyddfrydol Cymraeg a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, Amserau Cymru a gyhoeddwyd yn Lerpwl, yn 1859 gan y cyhoeddwyr Gwasg Gee i greu Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.

Daeth Baner ac Amserau Cymru yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.

Y llenor T. Gwynn Jones oedd is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[1]

Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[2] cyn ei ail-fedyddio'n Y Faner Newydd tua 1997.[3]

Llinell amser

  • Yr Amserau (1843-1859)
  • Baner Cymru (1857-1859)
  • Y Faner (1972-1992).

Papurau eraill a oedd yn perthyn i tua'r un cyfnod

Gweler hefyd

Cyfeiriadau