I. D. Hooson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B cat
Llinell 33: Llinell 33:
[[Categori:Marwolaethau 1948]]
[[Categori:Marwolaethau 1948]]
[[Categori:Pobl o Rosllannerchrugog]]
[[Categori:Pobl o Rosllannerchrugog]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon]]

Fersiwn yn ôl 19:54, 18 Mehefin 2016

Clawr adargraffiad o'i gerddi.

Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 188018 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.

O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel "Cyfaill i Blant Cymru".

Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.

Gwaith

Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i "Mri Morris & Jones" yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.[1]

Llyfryddiaeth

  • Cerddi a Baledi (1936)
  • Y Gwin a Cherddi Eraill (1948)

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol

Dolen allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.