Karl Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B trefn
B cat
Llinell 48: Llinell 48:
[[Categori:Genedigaethau 1942]]
[[Categori:Genedigaethau 1942]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr ffilm Cymreig]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr ffilm Cymreig]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Basaleg]]

Fersiwn yn ôl 19:34, 16 Mehefin 2016

Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a theledu Cymreig yw Karl Francis (ganwyd 1 Ebrill 1942), sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth adain chwith.[1] Cafodd ei waith ei ysbrydoli gan bobl fel Chris Marker a Ken Loach ac mae wedi cynhyrchu gwaith yn Saesneg a Chymraeg.

Bywgraffiad

Ganwyd Francis yn Bedwas, ger Caerffili. Enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Manceinion lle cafodd radd BA yn 1964. Yna fe fynychodd Hornsey College of Art i astudio am ddiploma ôl-raddedig am Ffilm mewn Addysg. Cychwynnodd ei yrfa yn y byd teledu yn 1971, yn gyntaf fel ymchwilydd annibynnol, cyn cymryd swydd cynhyrchu gyda Weekend World ar gyfer London Weekend Television.[2] Yn 1973 symudodd i'r BBC ac fe gynhyrchodd rhaglenni fel 2nd House.

Yn 1977 fe ysgrifennodd, cynhyrchodd a chyfarwyddodd y ddrama ddogfen Above us the Earth. Roedd y ffilm, a saethwyd yng ngwanwyn a haf 1975, yn cofnodi cau glofa Ogilvie yng Nghwm Rhymni a'r effaith ar y glowyr a'r gymuned ehangach. Mae'r ffilm yn defnyddio actorion proffesiynol ac amatur i ddangos y perthynas rhwng y gweithwyr, undebau a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ynghyd a ffilm o arweinwyr gwleidyddol y dydd.[3] Mae'r ffilm yn cael ei ystyried yn bwysig am ei sylwebaeth gymdeithasol ac mae nawr yn rhan o Archif Sgrîn a Sain Cymru. Yn 2010 fe ddewiswyd Above us the Earth gan wefan celf BBC Cymru fel un o'r deg ffilm gorau am Gymru.[4] Yn 2012, fe ddewisodd y BFI/UK Film Council  Above Us The Earth fel y ffilm annibynnol orau a wnaed erioed yng Nghymru.

Yn 1995 fe'i hapwyntiwyd yn Bennaeth Drama BBC Cymru,[5] a pharhaodd yn y swydd tan 1997.[1]

Yn 2008 rhyddhaodd y ffilm Hope Eternal, sy'n dweud stori nyrs o Madasgar yn gweithio mewn hosbis twbercwlosis ac AIDS yn y Congo. Fe wnaed Hope Eternal mewn chwe iaith gan gyfuno ffilm a barddoniaeth ar yr un pryd yn defnyddio isdeitlau Saesneg. Agorwyd Gŵyl Ffilm Hay Sony 2008 gyda'r ffilm a fe'i cynigwyd fel enwebiad y DU yng nghategori Ffilm Iaith Dramor Orau yr 82fed Gwobrau yr Academi; ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y pum enwebiad olaf.[6]

Yng Ngorffennaf 2009 fe roddwyd Francis ar gofrestr troseddwyr rhyw y DU ar ôl "cyfaddef drwgweithredoedd" mewn perthynas â gwneud lluniau anweddus o blant.[7] Fe wnaeth Francis ddatgan ei fod yn gweithio ar ffilm am y broblem o fasnachu plant ar gyfer rhyw, ac er ei fod wedi hysbysu'r heddlu am natur ei ymchwiliad o flaen llaw, roedd yn teimlo fod rhaid iddo dderbyn y rhybudd ar ôl i'w gyfrifiadur, oedd yn cynnwys gwaith ysgrifenedig ei fywyd, gael ei feddiannu.[8] Yng Ngorffennaf 2011 siaradodd Francis yn gyhoeddus am ei ddymuniad i weld y system rybuddio, lle cafodd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am ddwy flynedd, yn cael ei ddiwygio, i ystyried gwaith ymchwil dilys. Yn Awst 2011, fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu dderbyn honiad Francis fod Heddlu De Cymru wedi methu ymchwilio i gyfres o gwynion am driniaeth ei achos.[9] Ers 1 Awst 2011 mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'w gwynion.[9]

Ffilmiau

  • Above Us the Earth (1977)
  • The Mouse and the Woman (1980)
  • Giro City (1982)
  • Yr Alcoholig Llon (1983)
  • Milwr Bychan (1984)
  • Ms.Rhymney Valley" (1985)
  • Nineteen 96 (1989)
  • Rebecca's Daughters (1992)
  • Streetlife (1995)
  • One of the Hollywood Ten (2000)
  • Hope Eternal (2008)

Teledu

  • Factfinder (1971)
  • Chekhov in Derry (1982)
  • Morphine and Dolly Mixtures (1990)
  • Raymond Williams: a Journey of Hope (1990)
  • Civvies (1992)

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 26 January 2010.
  2. "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 8 August 2011.
  3. "Above us the Earth". movinghistory.ac.uk. Cyrchwyd 8 August 2011.
  4. "Top 10 Welsh films: Above Us The Earth". BBC Wales. 2010. Cyrchwyd 8 August 2011.
  5. Culf, Andrew (14 December 1995). "Drama revival in BBC £191m winter season". The Guardian. t. 9. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  6. "Welsh film on Academy Award list". BBC News. 18 October 2008. Cyrchwyd 17 August 2011.
  7. "Film director Karl Francis put on sex offenders' register". South Wales Echo. Walesonline. 2 July 2009. Cyrchwyd 8 August 2011.
  8. Shipton, Martin (22 July 2011). "Film director Karl Francis wants police caution reform after being branded sex offender". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 August 2011.
  9. 9.0 9.1 Shipton, Martin (1 August 2011). "Film director cautioned for downloading indecent images for research wins complaints victory against police". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 August 2011.