Thomas Ifor Rees: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cyfeiriadau: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B cat |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1977]] |
[[Categori:Marwolaethau 1977]] |
||
[[Categori:Pobl o Geredigion]] |
[[Categori:Pobl o Geredigion]] |
||
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth]] |
Fersiwn yn ôl 19:29, 16 Mehefin 2016
Diplomydd, cyfieithydd ac awdur llyfrau taith oedd Thomas Ifor Rees (16 Chwefror 1890 – 11 Chwefror 1977), a anwyd yn Rhydypennau, Bow Street, ger Aberystwyth, Ceredigion, yn fab i'r cerddor J. T. Rees.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd yn was sifil a threuliodd nifer o flynyddoedd tramor yn cynnwys cyfnod fel llysgennad Prydain ym Molifia.
Gwaith llenyddol
Ysgrifenodd dri llyfr taith: In and Around the Valley of Mexico (1953), yn Saesneg, a Sajama (1960) ac Illimani (1964) am deithiau yn Ne America yn Gymraeg. Ystyrir y ddau lyfr olaf yn glasuron o lyfrau taith yn y Gymraeg. Maent yn cynnwys nifer o luniau a dynwyd gan yr awdur ei hun hefyd, sy'n eu gwneud yn gyfrolau deniadol.
Cyfieithodd nofelau gan René Bazin, Xavier de Maistre, J.R. Jiminez, C.F. Ramuz a Henri Troyat i'r Gymraeg, ynghyd â'r gerdd Elegy written in a Country Churchyard gan Thomas Gray a fersiwn Edward Fitzgerald o Rubaiyat Omar Khayyām.
Cyfeiriadau