Thomas Wiliems: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
→‎Llyfryddiaeth: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 18: Llinell 18:
Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur:
Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur:
*''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
*''Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609'', gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).

* Williams, J. E. Caerwyn. 'Thomas Wiliems, Y Geiriadurwr.' ''Studia Celtica'' 16/17 (1981/2): 280-316.
* Williams, J. E. Caerwyn. 'Thomas Wiliems, Y Geiriadurwr.' ''Studia Celtica'' 16/17 (1981/2): 280-316.



Fersiwn yn ôl 02:26, 23 Mai 2016

Geiriadurwr Cymraeg a hynafiaethydd brwd oedd Thomas Wiliems (1545 neu 1546 - 1622).

Bywgraffiad

Fe'i magwyd ym mhlwyf Trefriw, Arllechwedd Isaf, Sir Gaernarfon, cyn mynychu Prifysgol Rhydychen am adeg. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Anglicanaidd, gan wasanaethu fel curad yn Nhrefriw tua 1573.

Cyfeiriwyd ato gan ei gydoeswyr fel Syr Thomas Wiliems, nid am iddo gael ei ddyrchafu felly ond am fod offeiriaid y cyfnod yn arfer ymarddel y teitl hwn. Bu farw cyn 13 Awst 1623, pryd ysgrifennodd Syr John Wynn o Wydir ei enw ar lawysgrif y geiriadur (gweler isod) fel ei pherchennog.

Ysgolheictod

Ymddiddorai Thomas Wiliems yn fawr mewn hen lawysgrifau Cymraeg. Bu'n gyfrifol am gopïo nifer fawr ohonynt, gan gynnwys achau, gweithiau hanesyddol, gramadegau a gweithiau ieithyddol eraill.

Mae'n fwyaf adnabyddus am lunio geiriadur Lladin–Cymraeg (Peniarth 228), a gwplhawyd ym 1607, ac sy'n cynnwys rhestr o eiriau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor gydag enghreifftiau ohonynt o waith y beirdd. Teitl y geiriadur oedd Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ neu Trysawr yr iaith Latin ar Gymraec, ne’r Geiriadur cywoethocaf a helæthaf or wir dhiletiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith ynys Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604. Seilir y geiriadur ar waith Thomas Thomas, printiwr cyntaf Prifysgol Caergrawnt, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae, a dywed yn y rhagymadrodd iddo dreulio 30 o flynyddoedd i gaslgu'r deunydd. Ei nod wrth lunio'r geiriadur oedd 'i wneuthur yr eithaf o'm galhu dros vy ngwlat ag iaith naturiawl vy mam, a'm hanwylgu gereint yn holh Gymru' ac 'y gadw'r iaith einom … yn dragyvyth', ac mae'n beirniadu rhai o'i gydwladwyr am beidio â chynorthwyo ei waith ac am wrthod siarad Cymraeg wrth ei gilydd.[1]

Mae ychwanegiadau ganddo yn ei lawysgrifau yn awgrymu iddo fod wedi troi i Gatholigiaeth. Mae'n dyfynnu allan o weithiau Pabyddol wrth lunio ei eiriadur, heb ddefnyddio'r Beibl Protestannaidd Cymraeg. Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod ei oes, ond gwelodd olau dydd mewn ffurf dalfyredig fel rhan o eiriadur John Davies (Dictionarium duplex) ym 1632.[1]

Cyhoeddodd y Dr John Davies o Fallwyd dalfyriad o eiriadur Thomas Wiliems yn ail ran ei eiradur Cymraeg-Lladin yr Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex (1632).[2]

Llyfryddiaeth

Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur:

  • Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
  • Williams, J. E. Caerwyn. 'Thomas Wiliems, Y Geiriadurwr.' Studia Celtica 16/17 (1981/2): 280-316.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, gol. T. H. Parry Williams (1954).
  2. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).