452,433
golygiad
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6947850 (translate me)) |
(tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB) |
||
Mae '''Mynydd Hiraethog''' yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng [[Afon Conwy]] ac [[Afon Clwyd]], yn [[Sir Ddinbych]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o [[Mynyddoedd y Cambria|Fynyddoedd y Cambria]]. Y copa uchaf yw [[Mwdwl-eithin]] (532 medr). Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu [[Grugiar]] yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]], ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o [[Oes yr Efydd]]. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw [[Llyn Alwen]], [[Llyn Brenig]] a [[Cronfa Aled Isaf|Chronfa Aled Isaf]].
[[Delwedd:Welsh mountains Llandudno a Wrecsam.jpg|bawd|chwith|upright=1.4|Mynyddoedd Hiraethog]]
[[Delwedd:Foel Fenlli from Offa's Dyke Path.jpg|bawd|[[Moel Fenlli]], [[Bryniau Clwyd]].]]
{| align="left"
|- valign="top"
|}
{{clear}}
<
==Cysylltiadau allanol==
* [http://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/hiraeth/w_mhirae.htm Archaeoleg ac agweddau eraill Mynydd Hiraethog]
|