Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Llwybrau lleol: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
|||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Llwybrau lleol== |
==Llwybrau lleol== |
||
Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft: |
Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft: |
||
#[[Llanfechell|Taith gylchol Mynydd Mechell]]. Taith hawdd |
#[[Llanfechell|Taith gylchol Mynydd Mechell]]. Taith hawdd 5 km yw hon sy'n cymryd oddeutu dwyawr. Y man cychwyn yw Capel Jeriwsalem ar Fynydd Mellech ({{gbmappingsmall|SH360899}}). |
||
#[[Mynydd Parys|Taith Mynydd Parys]]. Y porthladd yn [[Amlwch]] ({{gbmappingsmall|SH452936}}) yw man cychwyn a gorffen y daith hon ac mae'r cerddwr yn pasio pentir a goleudy [[Trwyn y Balog]] a Mynydd Parys. Mae hon yn daith |
#[[Mynydd Parys|Taith Mynydd Parys]]. Y porthladd yn [[Amlwch]] ({{gbmappingsmall|SH452936}}) yw man cychwyn a gorffen y daith hon ac mae'r cerddwr yn pasio pentir a goleudy [[Trwyn y Balog]] a Mynydd Parys. Mae hon yn daith 22 km ac fe gymrith tua 6 awr.<ref name="Copper Coast">{{cite web|title=Copper Coast Circular|url=http://www.ynysmonramblers.org.uk/#/copper-coast-circular/4539576818|work=Cerddwyr Ynys Môn / MônRamblers|publisher=Ramblers Association|accessdate=13 Awst 2013}}</ref> |
||
#[[Ynys Llanddwyn]]. Llwybr i gerddwyr yn unig yw hon gan mai tywod sydd o dan draed - mae'n draeth godidog gyda golygfeydd o [[Eryri]] i'w goroni. Cychwyn y daith yw maes parcio Llanddwyn {{gbmappingsmall|SH415649}} ac mae'n 2. |
#[[Ynys Llanddwyn]]. Llwybr i gerddwyr yn unig yw hon gan mai tywod sydd o dan draed - mae'n draeth godidog gyda golygfeydd o [[Eryri]] i'w goroni. Cychwyn y daith yw maes parcio Llanddwyn {{gbmappingsmall|SH415649}} ac mae'n 2.3 km o ran hyd. Mae [[sarn]] (neu rimyn o dir) yn ei chysylltu â'r tir mawr pan fo'r llanw allan. Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes [[Dwynwen]], [[nawddsant]] cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr [[eglwys]] a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r [[16eg ganrif]] ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. |
||
==Llefydd ar hyd y llwybr== |
==Llefydd ar hyd y llwybr== |
Fersiwn yn ôl 20:19, 22 Mai 2016
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn llwybr hir o 200 km/125 milltir o gwmpas arfordir Ynys Môn, y rhan fwyf ohono o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crewyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Mae’n ffurfio cylch o gwmpas yr ynys heblaw am fylchau yn Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd ac yn rhan o Lwybr yr Arfordir. Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]
Mae arwyddion amlwg ar hyd y llwybr cyfan.
Crewyd y llwybr mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Agorwyd y llwybr yn ffurfiol gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, ar 9 Mehefin 2006.
Llwybrau lleol
Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
- Taith gylchol Mynydd Mechell. Taith hawdd 5 km yw hon sy'n cymryd oddeutu dwyawr. Y man cychwyn yw Capel Jeriwsalem ar Fynydd Mellech (SH360899).
- Taith Mynydd Parys. Y porthladd yn Amlwch (SH452936) yw man cychwyn a gorffen y daith hon ac mae'r cerddwr yn pasio pentir a goleudy Trwyn y Balog a Mynydd Parys. Mae hon yn daith 22 km ac fe gymrith tua 6 awr.[2]
- Ynys Llanddwyn. Llwybr i gerddwyr yn unig yw hon gan mai tywod sydd o dan draed - mae'n draeth godidog gyda golygfeydd o Eryri i'w goroni. Cychwyn y daith yw maes parcio Llanddwyn SH415649 ac mae'n 2.3 km o ran hyd. Mae sarn (neu rimyn o dir) yn ei chysylltu â'r tir mawr pan fo'r llanw allan. Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16eg ganrif ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny.
Llefydd ar hyd y llwybr
O gychwyn yng Nghaergybi a cherdded yn glocwedd, mae’r llwybr yn mynd heibio i:
- Caergybi
- Ynys Lawd
- Porth Dafarch
- Trearddur
- Ffynnon Santes Gwenfaen
- Rhosneigr
- Barclodiad y Gawres
- Eglwys Llangwyfan
- Aberffraw
- Eglwys Llangadwaladr, lle claddwyd Cadfan ap Iago
- Ynys Llanddwyn
- Llanidan
- Pont Britannia
- Pwll Ceris
- Ynys Dysilio
- Pont Y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford
- Porthaethwy
- Biwmares
- Penmon ac Ynys Seiriol
- Traeth Coch
- Benllech
- Moelfre
- Porth Amlwch
- Eglwys Llanbadrig
- Cemaes
- Wylfa
- Cemlyn
- Llanrhwydrys
- Porth Swtan
- Parc Gwledig Penrhos
- Caergybi
Cyfeiriadau
- ↑ "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012.
- ↑ "Copper Coast Circular". Cerddwyr Ynys Môn / MônRamblers. Ramblers Association. Cyrchwyd 13 Awst 2013.
Ffynonellau
- Carl Rogers (2005), Llawlyfr Swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn. Mara Books. ISBN 1-902512-13-8
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol
- Crwydro Arfordir Môn Blog Cymraeg am griw o ffrindiau yn cerdded holl Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn ystod 2012
- Gwyl Gerdded Môn