Ffontygari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
amrywiol
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Pentref ger [[Y Rhws]] ar arfordir [[Bro Morgannwg]], de [[Cymru]], yw '''Ffont-y-gari''' (llurguniad Saesneg: ''Fontegary'').
Pentref ger [[Y Rhws]] ar arfordir [[Bro Morgannwg]], de [[Cymru]], yw '''Ffont-y-gari''' (llurguniad Saesneg: ''Fontegary'').


Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r [[Y Barri|Barri]] ger [[Maes Awyr Caerdydd]], prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae [[Ffwl-y-mwn]] a [[Castell Ffwl-y-mwn|Chastell Ffwl-y-mwn]].
Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r [[Y Barri|Barri]] ger [[Maes Awyr Caerdydd]], prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae [[Ffwl-y-mwn]] a [[Castell Ffwl-y-mwn|Chastell Ffwl-y-mwn]].


Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.

Fersiwn yn ôl 16:16, 22 Mai 2016

Pentref ger Y Rhws ar arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Ffont-y-gari (llurguniad Saesneg: Fontegary).

Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r Barri ger Maes Awyr Caerdydd, prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae Ffwl-y-mwn a Chastell Ffwl-y-mwn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.

Nid oes llawer yn y pentref bychan heblaw tai, gwersyllfa gwyliau a thraeth caregog. Ar Ddydd Sul, mae yna arwerthiant cist ceir yn y wersyllfa gwyliau. Mae chwarel rhwng Ffont-y-Gari ac Aberddawan sydd ddim yn cael ei ddefnyddio.

Yn 1928 roedd Ffont-y-gari yn lle poblogaidd i gael picnic, ac yn 1943, cafodd Ffont-y-gari ei ddisgrifio fel “cyrchfa haf dymunol gyda thraeth hyfryd ar gyfer ymdrochfa, yn ymyl elltydd ysgithrog sydd yn creu cefndir hyfryd - a hefyd lle cyfleus i nofiwr i newid ei ddillad.” Mae’r traeth creigiog a’r elltydd yn hynod ac mae yna ogof fawr o’r enw Ogof Ffont-y-gari. Yn y 1960au, lluniodd Francis Lymburner arfordir Ffont-y-gari yn ei luniau pen ac inc Cymreig. Aeth yr actores Susan George ar ei gwyliau yn y wersyllfa gwyliau fel plentyn.


Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.