Annie Foulkes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Llenor Cymreig a golygydd [[blodeugerdd]] oedd '''Annie Foulkes''' ([[1877]] – [[12 Tachwedd]] [[1962]]). Fe'i ganed yn [[Llanberis]], [[Gwynedd]] yn ferch i Edward Foulkes (1850 - 1917) a weithiau fel swyddog yn [[Chwarel Dinorwig]]. Roedd o deulu diwylliedig iawn gyda'i thad yn awdur nifer o ysgrifau ar lenorion [[Saesneg]], yn enwedig mewn cyfnodolion Cymraeg; sgwennodd [[R Williams-Parry]] soned iddo wedi iddo farw.

Addysgwyd Annie yn [[Ysgol Dr. Williams]], [[Dolgellau]] ac yna yn y ''Collège de Jeunes Filles'' yn [[Saumur]], [[Ffrainc]] rhwng 1896-97.
Addysgwyd Annie yn [[Ysgol Dr. Williams]], [[Dolgellau]] ac yna yn y ''Collège de Jeunes Filles'' yn [[Saumur]], [[Ffrainc]] rhwng 1896-97.
Llinell 17: Llinell 17:

{{DEFAULTSORT:Foulkes, Annie}}
{{DEFAULTSORT:Foulkes, Annie}}

[[Categori:Genedigaethau 1877]]
[[Categori:Genedigaethau 1877]]
[[Categori:Marwolaethau 1962]]
[[Categori:Marwolaethau 1962]]

Fersiwn yn ôl 08:30, 22 Mai 2016

Llenor Cymreig a golygydd blodeugerdd oedd Annie Foulkes (187712 Tachwedd 1962). Fe'i ganed yn Llanberis, Gwynedd yn ferch i Edward Foulkes (1850 - 1917) a weithiau fel swyddog yn Chwarel Dinorwig. Roedd o deulu diwylliedig iawn gyda'i thad yn awdur nifer o ysgrifau ar lenorion Saesneg, yn enwedig mewn cyfnodolion Cymraeg; sgwennodd R Williams-Parry soned iddo wedi iddo farw.

Addysgwyd Annie yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau ac yna yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur, Ffrainc rhwng 1896-97.

Trodd ei golygon tu'r Iwerddon, lle dysgai Ffrangeg mewn ysgol yn Bray, Swydd Wicklow yn 1897 ac yn Nhregaron rhwng 1898 a 1905, cyn symud eto i'r Barri yn 1905 hyd at 1918. Yna, fe'i penodwyd hi'n Ysgrifennydd Gweithredol Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru gan olynu Robert Silyn Roberts. Bu'n aelod o griw'r Welsh Outlook yn y Barri, gyda Silyn a Thomas Jones yn eu harwain mewn trafodaethau ar lenyddiaeth. Yn dilyn anogaeth y grŵp golygodd gyfrol o farddoniaeth Gymraeg a ymddangosodd yn 1918: Telyn y Dydd (yn y gyfres Cyfres yr Enfys, a bu'n boblogaidd iawn mewn ysgolion. Cymaint felly, fel y bu'n rhaid cyhoeddi'r bedwaredd argraffiad yn 1929.

Bu farw'n wraig weddw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1962 yn 85 oed.

Llyfryddiaeth

  • Papurau Annie Foulkes a'i thad yn Llyfrgell Coleg Bangor (llawysgrau Bangor 16040-16410, 16590-16668)
  • Carnarvon and Denbigh Herald, 1832 ff, 16 a 23 Tach. 1962

Cyfeiriadau