Afon Cleddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cleddau Wen: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
|||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Cleddau Wen== |
==Cleddau Wen== |
||
{{prif|Afon Cleddau Wen}} |
{{prif|Afon Cleddau Wen}} |
||
Ceir dwy ran i '''Afon Cleddau Wen''' (ffurf amgen: ''Cleddy Wen''). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o [[Abergwaun]]. Llifa tua'r de-orllewin heibio [[Scleddau]]. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy [[Cas-blaidd|Gas-blaidd]] i [[Hwlffordd]], lle ceir effaith y llanw. |

==Cleddau Ddu== |
==Cleddau Ddu== |
Fersiwn yn ôl 22:45, 21 Mai 2016
Afon yn ne Sir Benfro yw Afon Cleddau. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ynumnant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig Aberdaugleddau (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel afon Daugleddau weithiau).
Cleddau Wen
- Prif: Afon Cleddau Wen
Ceir dwy ran i Afon Cleddau Wen (ffurf amgen: Cleddy Wen). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.
Cleddau Ddu
- Prif: Afon Cleddau Ddu
Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.