Llychlynwyr yng Ngalisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Llychlynwyr yn Galisia i Llychlynwyr yng Ngalisia |
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Galisia]] |
[[Categori:Hanes Galisia]] |
||
[[Categori:Llychlynwyr]] |
[[Categori:Llychlynwyr]] |
Fersiwn yn ôl 20:10, 16 Mai 2016
Cafwyd ymosodiadau gan y Llychlynwyr ar Galasia rhwng y 9fed a'r 12fed ganrif ac roedd Galisia'n allweddol yn ymgyrch y Llychlynwyr Sgandinafaidd i fasnachu, rheibio a lladrata yn arfordiroedd Portiwgal a De Sbaen.[1]
Yn ddiwylliannol ac yn economaidd, cysylltwyd Gorllewin Ewrop gan lwybr morwrol a alwyd gan y Llychlynwyr yn Vestvegr (tebyg i 'west way' yn Saesneg) a fu cyn hynny'n llwybr pwysig yn natblygiad y Celtiaid. Roedd Brenhiniaeth Galisia hanner ffordd rhwng gogledd a de'r llwybr hwn: rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Canoldir a thrwyddi yr hwyliodd yr holl fasnachu rhwng Portiwgal, De Sbaen ac Ynys Prydain ac Iwerddon. Dyma bwysigrwydd Galisia, felly, i'r Llychlynwyr (a'r Normaniaid), fel y Celtiaid cyn hynny.
Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr Annales Bertiniani, yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber Afon Garonne (sydd heddiw yn Ffrainc) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn Lisbon. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.
Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal a hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn Catoira a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.[2]Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.[3]
Un o'u cyrchfannau oedd Jakobsland, a adnabyddir heddiw fel Santiago de Compostela, a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, Denmarc er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.
-
Cerflun o un o'r Llychlynwyr yn Catoira
-
Cwch Drakkar yn Catoira
-
Ail-greu hanes y Llychlynwyr yn y cyfnod modern
-
Gwyl Llychlynwyr Catoira
Cyfeiriadau
- ↑ Tamén denominados normandos ou lordimani, nos documentos galegos da época das vagas.
- ↑ www.donquijote.org; adalwyd 16 Mehefin 2015
- ↑ Prifysgol Aberdeen; adalwyd 16 Mehefin 2015