== Bywyd cynnar ac addysg ==
Magwyd Rees ym [[Port Talbot|Mhort Talbot]] a fe'i addysgwyd ynmewn ysgolion lleol cyn astudio ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]], lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg acymhwystera chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym [[Mynydd Cynffig]], ac yna aeth yn ddarlithydd [[cyfrifiadureg]] yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym [[Prifysgol Fetropolitan Abertawe|Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe]]. Yn ystod y cyfnod hwn, yntra'n gweithio ynmewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac maeyn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.
== Gyrfa wleidyddol ==
Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid aac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad.
MaeYn Rees2016 arroedd hyn o brydhefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, sy'n ystyried materion iechyd a gofal cymdeithasol, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, ac yn chwarae rôl bwysig wrtha hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .
|