David Rees (gwleidydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Creuwyd drwy gyfieithu'r dudalen "David Rees (politician)"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:41, 10 Mai 2016

Gwleidydd Llafur Cymruyw David Rees sydd wedi cynrychioli etholaeth Aberafan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 2011.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

Magwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd yn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg acymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn yn gweithio yn Addysg Uwch enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac mae yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.

Gyrfa wleidyddol

Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid a roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad. 

Mae Rees ar hyn o bryd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, sy'n ystyried materion iechyd a gofal cymdeithasol, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, ac yn chwarae rôl bwysig wrth hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .

Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[2]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol