Rhun ap Iorwerth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
|enw=Rhun ap Iorwerth |
|enw=Rhun ap Iorwerth |
||
|olddodiad_anrhydeddus=AC |
|olddodiad_anrhydeddus=AC |
||
|delwedd= |
|delwedd=RhunApIorwerth Nov2014.jpg |
||
|pennawd= |
|||
|pennawd=Rhun ap Iorwerth<br />Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
|||
|trefn= |
|trefn= |
||
|swydd=Aelod Cynulliad (AC) |
|swydd=Aelod Cynulliad (AC) |
Fersiwn yn ôl 15:29, 6 Mai 2016
Rhun ap Iorwerth AC | |
| |
Aelod Cynulliad (AC)
| |
Cyfnod yn y swydd 2 Awst 2013 – presennol | |
Rhagflaenydd | Ieuan Wyn Jones |
---|---|
Geni | Tonteg, Pontypridd | 27 Awst 1972
Cenedligrwydd | Cymro |
Etholaeth | Ynys Môn (etholaeth Cynulliad) |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Llinos |
Plant | 3 |
Cartref | Llangristiolus, Ynys Môn |
Galwedigaeth | Gwleidydd,Newyddiadurwyr |
Gwefan | Gwefan Wleidyddol |
Mwyafrif o 9,166 yn 2013 |
Gwleidydd a newyddiadurwr Cymreig yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972),[1] aelod o Blaid Cymru a etholwyd i gynrychioli Ynys Môn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn Is-etholiad Ynys Môn, 2013.[2] Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau ac yna Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[3] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg. Roedd ei dad, Edward, yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward'.
Fe'i penodwyd fel gohebydd gwleidyddol gan BBC Cymru yn 1994 cyn cychwyn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd. Gweithiodd fel gohebydd yn Westminster cyn dychwelyd i Gymru yn 1997. Yn 2001 fe'i penodwyd yn Brif Ohebydd Gwleidyddol BBC Cymru a chyflwynodd eitemau yn Gymraeg ac yn Saesneg am gyfnod o bum mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynodd raglenni ac eitemau i The Politics Show Wales, Dragon's Eye, ampm, BBC Radio Wales, Good Morning Wales, 'Post Cyntaf', rhaglenni amser brecwast a rhaglenni wythnosol ar wleidyddiaeth y dydd gan gynnwys 'Dau o'r Bae' a Newyddion S4C.
Yn Ionawr 2014 fe'i enwyd yn un o Noddwyr ('Patron') Cronfa Betsi Cadwaladr, sef yr adain wirfoddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gyrfa wleidyddol
Ar 1 Awst 2013 etholwyd Rhun i gynrychioli Ynys Môn ar y Cynulliad, gyda thair gwaith y pleidleisiau a gafodd yr ail ymgeisydd (Llafur); derbyniodd 12,601 o bleidleisiau. Roedd hyn yn tanseilio breuddwyd Llafur i gael mwyafrif o aelodau yn Senedd y Cynulliad.
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ Vaughan Roderick (2 Awst 2013). BBC News - Plaid's Anglesey win 'energising' for party, says Rhun ap Iorwerth. BBC. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
- ↑ Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.