Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tegel (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.39.172.70 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Tegel.
Llinell 21: Llinell 21:
==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==
*[[Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)]]
*[[Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)]]
*[[Rhestr o emynwyr Cymraeg] helo cynwal
*[[Rhestr o emynwyr Cymraeg]]


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 13:12, 6 Mai 2016

Capel y Beirdd ger Rhoslan, Cricieth; lle mynychodd Robert ar adegau, er nad oedd yn aelod yno.

Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850).[1]

Bywyd a gwaith

Ffermdy'r Betws Fawr, cartref y bardd.

Ganed ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Bu'n ffermio yn y Betws Fawr am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834. Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus. Roedd yn gyfaill i'r bardd Dewi Wyn o Eifion ac i'r pregethwr J. R. Jones, Ramoth.[1]

Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes":

Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweud yn iawn amdano. [...]

Llyfryddiaeth

  • Gardd Eifion (1841). Casgliad o waith y bardd.
  • Cybi (gol.), Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ab Gwilym Ddu (1911)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.