Mantell dramor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cats |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Blwch tacson |
|||
{{Taxobox |
|||
| name = ''Vanessa cardui'' |
| name = ''Vanessa cardui'' |
||
| image = Butterflies of Kerala Painted Lady.JPG |
| image = Butterflies of Kerala Painted Lady.JPG |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf. |
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf. |
||
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, [[Zürich (canton)|Canton Zürich]] gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio. |
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, [[Zürich (canton)|Canton Zürich]] gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.<ref>Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.</ref> |
||
==Tiriogaeth== |
==Tiriogaeth== |
Fersiwn yn ôl 16:43, 28 Ebrill 2016
Vanessa cardui | |
---|---|
Rhan ucha'r adain | |
Tan yr adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Vanessa |
Is-enws: | Cynthia |
Rhywogaeth: | V. cardui |
Enw deuenwol | |
Vanessa cardui (Linnaeus, 10fed rhifyn: Systema Naturae, 1758) | |
Cyfystyron | |
Papilio cardui Linnaeus, 1758 |
Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.[1][2] Y gair amgen amdano yng ngogledd America ydy Cosmopolitan. Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin.
Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Mae'n edrych yn debyg i ddau rywogaeth arall: Vanessa virginiensis a Vanessa annabella. Y gair arall am fantell ydy "clogyn".
Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw.
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, Canton Zürich gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.[3]
Tiriogaeth
Mae'r V. cardui yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica a De America.
Bwyd
Ymhlith bwyd y siani flewog mae teulu'r Asteraceae gan gynnwys: Cirsium, Carduus,Centaurea, Arctium, Helianthus, ac Artemisia.[4] Mae naturiaethwyr wedi cofnodi dros 300 o fwydydd gwahanol. Yn yr ystafell ddosbarth, y bwyd gorau i'w ddefnyddio ydy paced o hadau blodau haul - y math sy'n cael ei ddefnyddio fel bwyd adar. Dylid rhoi'r rhain i'w socian mewn dŵr am 8 awr cyn eu gosod ar wyneb o bridd. Y dail sy'n cael ei fwyta ac nid yr hedyn caled.
Cyffredinol
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell dramor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.
- ↑ Vanessa cardui, Butterflies of Canada