Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolennau
Llinell 34: Llinell 34:
*Mairwen a Gwynn Jones (gol.), ''Dewiniaid Difyr'' (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan [[Dyddgu Owen]], tt.97-103. ISBN 0850887372
*Mairwen a Gwynn Jones (gol.), ''Dewiniaid Difyr'' (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan [[Dyddgu Owen]], tt.97-103. ISBN 0850887372
*R.M. Jones, ''Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936'' (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".
*R.M. Jones, ''Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936'' (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".

==Dolennau allanol==
*[http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-TEG-1880.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]


{{Edward Tegla Davies}}
{{Edward Tegla Davies}}

Fersiwn yn ôl 20:46, 26 Gorffennaf 2007

Edward Tegla Davies

Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880 - 9 Hydref, 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.

Bywyd

Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.

Gwaith Llenyddol

Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.

Llyfrau i blant yn bennaf

Llyfrau eraill

Llyfryddiaeth

  • Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
  • Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
  • Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
  • Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
  • Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
  • R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".

Dolennau allanol


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon