Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dyddiadau |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Tegla_01.JPG|200px|bawd|Edward Tegla Davies]] |
[[Delwedd:Tegla_01.JPG|200px|bawd|Edward Tegla Davies]] |
||
[[Llenor]], a anwyd yn [[Llandegla-yn-Iâl]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]], yn fab i chwarelwr ([[1880]]-[[1967]]) oedd Edward Tegla Davies. Fel ''Tegla'' roedd yn cael ei adnabod gan bawb. |
[[Llenyddiaeth Gymraeg|Llenor yn yr iaith Gymraeg]], a anwyd yn [[Llandegla-yn-Iâl]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]], yn fab i chwarelwr ([[1880]] - [[9 Hydref]], [[1967]]) oedd '''Edward Tegla Davies'''. Fel ''Tegla'' roedd yn cael ei adnabod gan bawb. |
||
== Bywyd == |
== Bywyd == |
||
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog [[ |
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog [[Eglwys Fethodistaidd Cymru|Wesleaidd]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, ac ''[[Yr Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]]. |
||
== Gwaith Llenyddol == |
== Gwaith Llenyddol == |
||
Ysgrifenodd ar gyfer [[Llenorion Plant Cymru|plant]] ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys [[Y Nofel Gymraeg|nofelau]], sawl cyfrol o [[Y Stori Fer Gymraeg|straeon byrion]], [[Yr Ysgrif Gymraeg|ysgrifau]] a [[hunangofiant]]. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a [[byd natur]] yn elfen amlwg yn ei waith. |
Ysgrifenodd ar gyfer [[Llenorion Plant Cymru|plant]] ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys [[Y Nofel Gymraeg|nofelau]], sawl cyfrol o [[Y Stori Fer yn y Gymraeg|straeon byrion]], [[Yr Ysgrif Gymraeg|ysgrifau]] a [[hunangofiant]]. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a [[byd natur]] yn elfen amlwg yn ei waith. |
||
===Llyfrau i blant yn bennaf=== |
===Llyfrau i blant yn bennaf=== |
Fersiwn yn ôl 16:19, 26 Gorffennaf 2007
Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880 - 9 Hydref, 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Bywyd
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.
Gwaith Llenyddol
Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Stori Sam (1938)
Llyfrau eraill
- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
Llyfryddiaeth
- Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
- Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
- Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
- R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".