Buwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rotvieh.jpg |
→Gofyn tarw ac ymadroddion eraill: tacluso a Blwch tacson using AWB |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
==Cymru== |
==Cymru== |
||
===Gofyn tarw ac ymadroddion eraill=== |
===Gofyn tarw ac ymadroddion eraill=== |
||
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon [[Dyfi]], 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym [[Morgannwg]]: 'mofyn tarw'. Yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.<ref> |
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon [[Dyfi]], 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym [[Morgannwg]]: 'mofyn tarw'. Yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.<ref>Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur Prifysgol Cymru;] adalwyd Medi 2015</ref> Sonia [[Cyfraith Hywel|Cyfraith Hywel Dda]] ([[14eg ganrif]]) am ''"weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf."'' Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen [[Sir Fflint]] a chanol [[Powys]]. |
||
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.<ref>Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.</ref> |
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.<ref>Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.</ref> |
Fersiwn yn ôl 13:54, 27 Ebrill 2016
Gwartheg | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Bovinae |
Genws: | Bos |
Rhywogaeth: | B. taurus |
Enw deuenwol | |
Bos taurus Linnaeus, 1758 |
Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.
Ych
Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.
Cymru
Gofyn tarw ac ymadroddion eraill
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[1] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14eg ganrif) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[2]
Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13eg ganrif: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.
Cyfeiriadau
- ↑ Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
- ↑ Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.