Catrin Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Pobl fu farw o strôc]]
[[Categori:Pobl fu farw o strôc]]
[[Categori:Tsariaid Rwsia]]
[[Categori:Tsariaid Rwsia]]
[[Categori:Merched y 18fed ganrif]]

Fersiwn yn ôl 07:41, 9 Ebrill 2016

Catrin II (Catrin Fawr) o Rwsia

Catrin II neu Catrin Fawr (Rwseg: Екатерина II Великая, Yekaterina II Velikaya; (1729 - 1796) oedd Ymerodres Rwsia o 28 Mehefin 1762 hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.

Ganed Catrin fel Sophie Augusta Frederica yn Stettin, yn awr Szczecin yng Ngwlad Pwyl ond yr adeg honno yn deyrnas fechan yn yr Almaen. Dewiswyd hi yn wraig i etifedd y tsar, Pedr o Holstein-Gottorp. Dywedir fod Catrin yn benderfynol o ddysgu Rwseg mor fuan ag y gallai, ac ar 28 Mehefin 1744 daeth yn aelod o Eglwys Uniongred Rwsia gyda'r enw Catrin Alecseyefna (Yekaterina neu Ekaterina). Priodwyd hi a Pedr ar 21 Awst 1745.

Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar farwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr 1762 daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nis oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.

Yr oedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru a rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis Voltaire a Diderot. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys Belarws a Lithwania. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000 km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. Gorchfygwyd Twrci mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.

Cafodd Catrin strôc ar 5 Tachwedd, 1796, a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: