Sian Gwenllian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
rhaid i'r cynnwys fod yn ddiduedd, yn niwtral. |
Yn dileu "Sian_Gwenllian_-_Arfon_Cropped.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Jcb achos: Per c:Commons:Deletion requests/Files uploaded by Plaid Cymru Swyddogol. |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Sian Gwenllian - Arfon Cropped.jpg|bawd|Sian Gwenllian]] |
|||
Mae '''Siân Gwenllian''' yn Gynghorydd Sir [[Plaid Cymru]] dros [[Y Felinheli]], [[Gwynedd]]. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 hi oedd yr aelod cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc a dirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, cafodd y swydd o Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yma o economi Gwynedd. |

Fersiwn yn ôl 19:59, 8 Ebrill 2016
Mae Siân Gwenllian yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru dros Y Felinheli, Gwynedd. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 hi oedd yr aelod cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc a dirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, cafodd y swydd o Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yma o economi Gwynedd.
Fe'i haddysgwyd yn ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Yna bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle'i maged.
Yn 2015, fe'i dewisiwyd i sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Mae'n olynu Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad presennol Arfon, sy’n ymddeol.
Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gwr, Dafydd Vernon o Benygroes, farw o ganser 17 mlynedd yn ôl. Roedd hyn yn her enfawr ond mae wedi ei gwneud yn gryf a thosturiol. Aeth y plant i’r ysgol yng Nghaernarfon.