Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Gweler hefyd: Dydd Iau Dyrchafael |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y ''Pasg Iddewig'', gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr [[Hen Destament]] ([[Llyfr Exodus|Exodus]] 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r [[Testament Newydd]] yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" ([[Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid|1 Corinthiaid]] 5:7). |

Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y [[Pentecost]]. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y [[Grawys]]. |
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y [[Pentecost]]. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y [[Y Grawys|Grawys]]. |
||
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i [[Eglwys Uniongred|Eglwysi Uniongred]] y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr [[Eglwys Goptaidd]], mai'r Pasg yw'r [[dydd Sul]] cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y [[Lleuad]] sydd ar neu ar ôl [[cyhydnos]] y gwanwyn. |

Fersiwn yn ôl 16:53, 24 Mawrth 2016
Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y Dydd Gwener cyn hynny.
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.
Traddodiadau'n ymwneud â'r Pasg
Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad â'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd. Sonir mewn ysgrifen yn gyntaf am y traddodiad hwn yn llyfr Georg Franck von Franckenau, De ovis paschalibus[1] (Ynghylch Wyau Pasg) yn 1682[2] sy'n crybwyll hen draddodiad o Alsace am yr ysgyfarnog yn dod â wyau Pasg i'r plant. Diddorol hefyd ydy cysylltiad Santes Melangell gyda'r sgwarnog.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "Easter Bunny". cfi. Cyrchwyd 08/04/2012. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Easter Bunny - What Does He Have To Do With Easter?, occultcenter.com