Philip Jones Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Astudiodd i fod yn [[fferyllydd]] yn [[Lerpwl]], a thra'n gweithio yn [[Llundain]], bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y [[Guardian]]. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i [[Algeria]] yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth Algeria|rhyfel annibyniaeth]] y wlad gyda [[Ffrainc]]. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn [[Fietnam]] rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau [[Magnum Photos|Magnum]].
Astudiodd i fod yn [[fferyllydd]] yn [[Lerpwl]], a thra'n gweithio yn [[Llundain]], bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y [[Guardian]]. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i [[Algeria]] yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth Algeria|rhyfel annibyniaeth]] y wlad gyda [[Ffrainc]]. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn [[Fietnam]] rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau [[Magnum Photos|Magnum]].


Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r [[Rhyfel Fiet Nam|rhyfel]] yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o [[Jackie Kennedy]] (gwraig [[John F. Kennedy]]) ar wyliau yn [[Cambodia]] gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hun ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw ''Vietnam inc.'' yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn [[2001]] gyda rhagair gan [[Noam Chomsky]].<ref>[http://www.democracynow.org/2002/1/24/vietnam_inc_part_ii_a_photo Vietnam Inc. Part II: A Photo-Journey Through the Villages, Fields, and Alleys of A devastated Nation] Democracy Now, [[24 Ionawr]], [[2002]]</ref>
Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r [[Rhyfel Fiet Nam|rhyfel]] yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o [[Jackie Kennedy]] (gwraig [[John F. Kennedy]]) ar wyliau yn [[Cambodia]] gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hyn ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw ''Vietnam inc.'' yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn [[2001]] gyda rhagair gan [[Noam Chomsky]].<ref>[http://www.democracynow.org/2002/1/24/vietnam_inc_part_ii_a_photo Vietnam Inc. Part II: A Photo-Journey Through the Villages, Fields, and Alleys of A devastated Nation] Democracy Now, [[24 Ionawr]], [[2002]]</ref>


Yn 1973 fe fu'n cofnodi [[rhyfel Yom Kippur]] a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i [[Efrog Newydd]] yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.
Yn 1973 fe fu'n cofnodi [[rhyfel Yom Kippur]] a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i [[Efrog Newydd]] yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.

Fersiwn yn ôl 23:20, 20 Mawrth 2016

Philip Jones Griffiths
Bachgen yn dryllio piano; c. 1961. LlGC
Sifiliad benywaidd o Fietnam; c. 1967. LlGC

Ffotograffydd (18 Chwefror 1936 - 18 Mawrth 2008) a aned yn Rhuddlan oedd Philip Jones Griffiths, yn Gymro Cymraeg ac sy'n enwog drwy'r byd am ei luniau o Ryfel Fietnam. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gyrfa

Astudiodd i fod yn fferyllydd yn Lerpwl, a thra'n gweithio yn Llundain, bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y Guardian. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i Algeria yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad gyda Ffrainc. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn Fietnam rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau Magnum.

Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r rhyfel yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o Jackie Kennedy (gwraig John F. Kennedy) ar wyliau yn Cambodia gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hyn ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw Vietnam inc. yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn 2001 gyda rhagair gan Noam Chomsky.[1]

Yn 1973 fe fu'n cofnodi rhyfel Yom Kippur a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i Efrog Newydd yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.

Yn ystod ei yrfa mae aseiniadau Griffiths wedi mynd ag ef i 120 o wledydd. Bu'n gweithio a thynnu lluniau ar gyfer storiau gwahanol fel Bwdhaeth yng Nghambodia, sychder yn India, tlodi yn Texas, ail-wyrddu Fietnam, ac ôl-effeithiau Rhyfel y Gwlff yn Kuwait.

Ymysg ei lyfrau eraill mae Dark Odyssey, ble mae Griffiths yn ystyried y berthynas anghyfartal rhwng technoleg a'r ddynoliaeth, ac hefyd y llyfr Agent Orange, sy'n olrhain sgîl-effeithiau hirhoedlog defnydd lluoedd America o'r cemegyn Agent Orange ar Fietnam.

Arddangosfeydd

  • 2015 Philip Jones Griffiths: A Welsh Focus on War and Peace - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • 2006 Fifty Years on the Frontline - Southeast Museum of Photography, Daytona, UDA
  • 2005 Fifty Years of Frontline - Denise Bibro Fine Art, Efrog Newydd, UDA
  • 2004 Agent Orange - Side Photographic Gallery, Newcastle upon Tyne
  • 1996 Dark Odyssey - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
  • 1992 RetrospectiveMadrid, Sbaen
  • 1990 Retrospective - Photofest, Houston, Texas, UDA
  • 1985 Magnum Concert - Musée d’Art et Histoire, Fribourg, Y Swistir
  • 1985 Magnum Photographs: 1932-1967 - Pace/MacGill Gallery, Efrog Newydd, UDA

Llyfrau

This woman was tagged with the designation VNC (Vietnamese civilian), Vietnam, by Jones Griffiths, 1967

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Vietnam Inc. Part II: A Photo-Journey Through the Villages, Fields, and Alleys of A devastated Nation Democracy Now, 24 Ionawr, 2002