Philip Jones Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
[[Delwedd:Boy destroying piano.jpg|bawd|220px|Bachgen yn dryllio piano; c. 1961. LlGC]] |
[[Delwedd:Boy destroying piano.jpg|bawd|220px|Bachgen yn dryllio piano; c. 1961. LlGC]] |
||
[[Delwedd:VNC Female.jpg|bawd|220px|Sifiliad benywaidd o Fietnam; c. 1967. LlGC]] |
[[Delwedd:VNC Female.jpg|bawd|220px|Sifiliad benywaidd o Fietnam; c. 1967. LlGC]] |
||
Ffotograffydd ([[18 Chwefror]] [[1936]] - [[18 Mawrth]] [[2008]]) a aned yn [[Rhuddlan]] oedd '''Philip Jones Griffiths''' ac sy'n enwog drwy'r byd am ei luniau o [[Rhyfel Fietnam|Ryfel Fietnam]]. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]]. |
Ffotograffydd ([[18 Chwefror]] [[1936]] - [[18 Mawrth]] [[2008]]) a aned yn [[Rhuddlan]] oedd '''Philip Jones Griffiths''', yn Gymro Cymraeg ac sy'n enwog drwy'r byd am ei luniau o [[Rhyfel Fietnam|Ryfel Fietnam]]. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]]. |
||
== Gyrfa == |
== Gyrfa == |
Fersiwn yn ôl 23:17, 20 Mawrth 2016
Ffotograffydd (18 Chwefror 1936 - 18 Mawrth 2008) a aned yn Rhuddlan oedd Philip Jones Griffiths, yn Gymro Cymraeg ac sy'n enwog drwy'r byd am ei luniau o Ryfel Fietnam. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyrfa
Astudiodd i fod yn fferyllydd yn Lerpwl, a thra'n gweithio yn Llundain, bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y Guardian. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i Algeria yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad gyda Ffrainc. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn Fietnam rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau Magnum.
Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r rhyfel yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o Jackie Kennedy (gwraig John F. Kennedy) ar wyliau yn Cambodia gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hun ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw Vietnam inc. yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn 2001 gyda rhagair gan Noam Chomsky.[1]
Yn 1973 fe fu'n cofnodi rhyfel Yom Kippur a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i Efrog Newydd yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.
Yn ystod ei yrfa mae aseiniadau Griffiths wedi mynd ag ef i 120 o wledydd. Bu'n gweithio a thynnu lluniau ar gyfer storiau gwahanol fel Bwdhaeth yng Nghambodia, sychder yn India, tlodi yn Texas, ail-wyrddu Fietnam, ac ôl-effeithiau Rhyfel y Gwlff yn Kuwait.
Ymysg ei lyfrau eraill mae Dark Odyssey, ble mae Griffiths yn ystyried y berthynas anghyfartal rhwng technoleg a'r ddynoliaeth, ac hefyd y llyfr Agent Orange, sy'n olrhain sgîl-effeithiau hirhoedlog defnydd lluoedd America o'r cemegyn Agent Orange ar Fietnam.
Arddangosfeydd
- 2015 Philip Jones Griffiths: A Welsh Focus on War and Peace - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- 2006 Fifty Years on the Frontline - Southeast Museum of Photography, Daytona, UDA
- 2005 Fifty Years of Frontline - Denise Bibro Fine Art, Efrog Newydd, UDA
- 2004 Agent Orange - Side Photographic Gallery, Newcastle upon Tyne
- 1996 Dark Odyssey - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- 1992 Retrospective – Madrid, Sbaen
- 1990 Retrospective - Photofest, Houston, Texas, UDA
- 1985 Magnum Concert - Musée d’Art et Histoire, Fribourg, Y Swistir
- 1985 Magnum Photographs: 1932-1967 - Pace/MacGill Gallery, Efrog Newydd, UDA
Llyfrau
- Vietnam, Inc. ISBN 978-0-7148-4603-3.
- Efrog Newydd: Collier (Macmillan), 1971.
- Llundain: Phaidon, 2001.
- Bangkok. Yr Iseldiroedd: Amsterdam Time-Life, 1979. ASIN B0006E3J5S.
- Philip Jones Griffiths: una vision retrospectiva (1952-1988), Consorcio para la Organizacion de Madrid Capital Europea de la Cultura, Sbaen, 1992.
- Dark Odyssey. Efrog Newydd: Aperture, 1996. ISBN 978-0-89381-645-2.
- Agent Orange: Collateral Damage in Vietnam. Llundain: Trolley, 2004. ISBN 978-1-904563-05-1.
- Vietnam at Peace. Llundain: Trolley, 2005. ISBN 978-1-904563-38-9.
- Recollections. Llundain: Trolley, 2008. ISBN 978-1-904563-70-9.